Cydnabod talent Cyn-fyfyriwr Rygbi Coleg y Cymoedd

Mae Coleg y Cymoedd wrth ei fodd bod talent un o gyn-fyfyrwyr ei Academi Rygbi wedi cael ei chydnabod gan un o chwaraewyr rygbi gorau Cymru erioed – Alun Wyn Jones.

Efallai y synnwyd rhai pobl pan gafodd Shane Lewis Hughes ei enwi fel un o garfan Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref eleni; ond, roedd yr hyfforddwyr sydd wedi gwylio datblygiad Shane yn gwybod erioed y byddai’n cyflawni pethau gwych.

Dechreuodd Shane ar ei daith pan oedd yn blentyn 7 oed yng Nghlwb Pêl-droed Rygbi Glyn Rhedynog lle datblygodd ei angerdd am y gêm. Cododd yn gyflym drwy’r rhengoedd ar lefel ysgol a chlwb, cyn ennill cydnabyddiaeth gyda Chlwb Ysgolion y Rhondda, o dan yr hyfforddwr a’r mentor Chris Jones.

Yn ystod y cyfnod hwn magodd Shane y gwerthoedd a’r etheg gwaith sydd wedi ei helpu i wireddu ei freuddwyd o chwarae dros Gymru. Parhaodd ei agwedd benderfynol a’i uchelgais tra’r oedd yn chwarae i dîm Gogledd Gleision Caerdydd ac oherwydd ei berfformiadau anhygoel, fe’i dewiswyd ef i fod yn aelod o dîm cenedlaethol Cymru dan 16 oed. Dyma’r cam cyntaf tuag at ei  wireddu ei freuddwyd o chwarae dros ei wlad ar lefel uwch.

Y cam nesaf yn nhaith Shane oedd cofrestru yn Academi Rygbi Coleg y Cymoedd lle treuliodd dair blynedd. Yn ei flwyddyn gyntaf cwblhaodd ei Lefel 2 mewn Chwaraeon, cyn symud ymlaen i’r Rhaglen Chwaraeon Lefel 3. Yn ystod y cyfnod hwn, ochr yn ochr â’i astudiaethau, llwyddodd Shane i weithio ar ei rygbi a’i ddatblygiad corfforol; gan gymryd diddordeb brwd yn ei ddeiet a’i adferiad.

Caniataodd yr Academi Rygbi yng Ngholeg y Cymoedd i Shane gwblhau ei gymhwyster academaidd a hyfforddi gyda’r Gleision, lle mae bellach yn rhan o garfan HÅ·n y Gleision.

Dywedodd Gareth Wyatt “Yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg y Cymoedd roedd agwedd Shane at fod y gorau yn sicr wedi dylanwadu ar y rhai o’i gwmpas. Mae Shane yn esiampl wych ar gyfer unrhyw chwaraewr proffesiynol uchelgeisiol, nid yn unig yng Ngholeg y Cymoedd a’r Rhondda ond ledled Cymru gyfan”.

Mewn cyfweliad diweddar dywedodd Alun Wyn Jones ei fod wedi bod yn aros 15 mlynedd am rywun fel Shane a chytunodd Wayne Pivac â hyn drwy ychwanegu “Os edrychwch ar Alun Wyn o ran paratoi, y ffordd y mae’n hyfforddi a’r ffordd y mae’n astudio’r gwrthwynebwyr, mae Shane Lewis Hughes yn glôn.

Mae’r coleg yn falch ei fod wedi bod yn rhan o daith Shane hyd yn hyn ac yn dymuno pob lwc iddo yn ei ddyfodol cyffrous”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau