Mae dysgwyr arlwyo Coleg y Cymoedd wedi bod yn cael gwersi ar gerflunio ia gan yr arbenigwyr.
Bu dwsin o ddysgwyr cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 3 campws Ystrad Mynach yn cerfio elyrch o flociau o ia fel rhan o arddangosfa a gweithdy ymarferol gan arbenigwyr sefydliad ‘The Ice Academy’.
Ymhlith cleientiaid yr ‘Ice Academy’ mae Mercedes-Benz, Gwesty’r Celtic Manor, Banc Lloyds a John Lewis. Maen nhw wedi eu gweld ar deledu ar raglenni ‘Rhod Gilbert’s Work Experience’, Chwaraeon y BBC, ‘Football Focus’, ‘Scrum V’ a hefyd ‘The One Show’.
Bu’r dysgwyr yn arsylwi ac yna’n atgynhyrchu’r broses o naddu talp o ia i fod yn alarch, gan ddefnyddio dim ond mân offer llaw. Fe fuon nhw’n gwneud y gwaith eu hunain, gam wrth gam, dan oruchwyliaeth ofalus a thrwy ddilyn yr arddangosiad.
Gweithiodd y dysgwyr fesul dau gan greu chwe cherflun o elyrch realistig iawn mewn tair awr a hanner. Cafodd yr elyrch ia eu harddangos gyda balchder i’r rhai oedd yn gwledda ym mwyty Scholars.
Yn ôl Laurajean Turk, 31 oed, o’r Coed Duon, sy’n astudio Coginio Proffesiynol Lefel 3: Chefais i erioed brofiad fel hyn o’r blaen ac mi wnes i ei wir fwynhau. Roedd defnyddio cÅ·n ar rywbeth mor frau yn eich gorfodi i arafu a chanolbwyntio, gan wir wella eich sgiliau.”
Dywedodd James Lewis, (17) o Dreharris “Rhoddodd cerflunio ia gyfle i ni wneud rhywbeth nad ydy llawer yn cael ei wneud; mae o’n dda i sadio’ch sgiliau llaw. Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn wnaethon ni a byddwn yn defnyddio’r cerflun terfynol mewn cyflwyniad bwffe cyn bo hir.”
Dywedodd Laura Giles, perchennog yr ‘Ice Academy’: “Roedden ni wedi’n plesio’n fawr gyda’r dysgwyr ac â lefel y canolbwyntio oedd ei angen ar gyfer y gweithgaredd heriol hwn.”
Dywedodd Pennaeth Arlwyo Coleg y Cymoedd, Paula Marsh: “Mae cerflunio ia yn gyfle gwych i ddysgwyr arbofi gyda’u natur greadigol a chael profiad o weithio mewn tri dimensiwn. Mae’r math hwn o brofiad yn eithriadol werthfawr ar gyfer y rhai yn y diwydiant arlwyo gan y gellir ei gymhwyso ar gyfer dulliau eraill megis cerfio braster neu gerfio ffrwythau.”
“