Cyfleoedd newydd i ddysgu Cymraeg

Mae Coleg y Cymoedd yn cymryd rhan mewn cynllun peilot i ddysgwyr ddysgu Cymraeg am ddim yn ystod eu cyfnod yn y coleg. Wedi’i lansio gan SaySomethinginWelsh a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnig i bob dysgwr sy’n mynegi diddordeb mewn datblygu eu sgiliau Cymraeg. Gellir astudio’r cwrs ar-lein ar gyflymder a lefel y dysgwr ei hun. Mae 35 o ddysgwyr wedi ymuno â’r cynllun hyd yma, naill ai fel dysgwyr unigol neu fel dosbarth a fydd yn dysgu fel grŵp.

“Mae arbrawf newydd cyffrous yn digwydd mewn saith o golegau ac ysgolion Cymru yn ystod tymor yr Hydref eleni – mynediad at declyn dysgu newydd SaySomethinginWelsh, o’r enw ‘AutoMagic’. Mae’r declyn yma yn ffocysu ar yr iaith lafar, ac yn gwella sgiliau siarad y dysgwyr trwy nifer helaeth o mini-ymarferion lle mae’r dysgwr yn clywed y Saesneg ac yn gorfod dweud y Gymraeg. Mae modd dysgu am gyn lleied neu gymaint o amser ag sydd eisiau, ac mae modd dewis dwysder y dysgu trwy ateb cwestiwn am sut ydach chi’n teimlo – os dach chi’n teimlo’n ‘Iawn’, cewch ymarferion llai heriol nag os dach chi’n dewis ‘Arbennig’. Mae’r ymateb hyd yma wedi bod yn galonogol iawn, a’r gobaith ydy bydd yr arbrawf hon yn arwain y ffordd at helpu pawb mewn addysg cyfrwng Saesneg i gyrraedd lefel cyfathrebu hyderus iawn gyda’u Cymraeg.

Ychwanegodd Karen Workman, Is-Bennaeth/Prif Swyddog Gweithredu Coleg y Cymoedd: “Mae Coleg y Cymoedd wrth ei fodd â rhan o’r prosiect hwn gyda SaySomethinginWelsh a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dyma gyfle gwych i’n dysgwyr ddysgu Cymraeg ac mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn gadarnhaol. Mae’n rhan o strategaeth ehangach y Coleg i ddatblygu sgiliau Cymraeg dysgwyr yn ystod eu cyfnod yn y coleg ac i gryfhau cysylltiad dysgwyr â’u diwylliant a’u hanes eu hunain. Hefyd, mae’n ategu’r cyfleoedd sydd ar gael i’n staff ddysgu Cymraeg, drwy’r prosiect Cymraeg Gwaith AB, a ariennir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”

Pan ofynnwyd iddo pam ei fod eisiau dysgu Cymraeg, atebodd un o’r dysgwyr, Kyan Dyer sy’n astudio Coginio Proffesiynol Lefel Mynediad 3, “Rwyf eisiau dysgu am fy niwylliant a’m hiaith fy hun, ac rwy’n teimlo y byddai hefyd yn agor rhagor o gyfleoedd imi drwy ddysgu Cymraeg”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau