Mae Gwasanaethau Busnes yng Ngholeg y Cymoedd yn rhoi pwyslais cryf ar ymgysylltu â sefydliadau allanol, yn enwedig cyflogwyr, er mwyn datblygu cyfleoedd i greu partneriaeth.
Ar hyn o bryd mae’r Gyfadran yn ymgysylltu â dros 800 o gyflogwyr gan ddarparu hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleusterau. Nod datblygu’r partneriaethau hyn yw gwasanaethu anghenion busnesau, cyfoethogi profiadau dysgwyr a datblygu cyfleoedd dilyniant sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth a phrentisiaethau.
Rydym yn gweithio gyda rhai o’r prif gyflogwyr yng Nghymru, yn darparu hyfforddiant i’w prentisiaid yn ogystal â datblygu pecynnau hyfforddiant wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y diwydiant. Mae ein gwaith gyda chyflogwyr yn seiliedig ar wir bartneriaeth a chydweithio, sy’n agored, yn onest ac yn gwerthuso’n barhaus.
Mae llawer o bartneriaethau wedi’u sefydlu ers dros 20 mlynedd. Mae cyfleoedd partneriaeth newydd wedi’u creu, gan ein caniatáu i dyfu ac ehangu cyfleusterau arbenigol er mwyn cynnig hyfforddiant o’r radd flaenaf mewn canolfannau sydd â’r holl gyfleusterau hanfodol ar gyfer diwydiant.