Mae gan Goleg y Cymoedd dîm Digwyddiadau penodedig sydd wedi ymrwymo i ddarparu ansawdd a chefnogaeth o’r radd flaenaf a gwerth am arian pan gaiff ei gomisiynu i helpu gwneud eich digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
Mae gennym amrywiaeth o Ystafelloedd Cynhadledd, Awditoria a chyfleusterau arbenigol ar draws ein pedwar campws: Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach. Gall ein hamrywiaeth eithriadol o leoliadau cyfarfod gynnal rhwng 2 a 190 o gynadleddwyr ac mae pob lleoliad yn hygyrch drwy’r holl brif gysylltiadau trafnidiaeth. Mae digonedd o leoedd parcio am ddim ym mhob lleoliad.
Mae gan ein cleientiaid fynediad at y technolegau diweddaraf, gan gynnwys Wi-fi a byrddau smart, cyfrifiaduron, Lync a Skype. Yn ogystal, mae gennym y gallu i gefnogi eich cynhadledd neu ddigwyddiad gyda’n gwasanaeth reprograffeg ar y safle ar gyfer deunyddiau print.
Ymlith y cyfleusterau arbenigol mae modd llogi ein Stiwdios Recordio, Stiwdios Dawns, Awditoria, Ceginau a Bwytai a chyfleusterau arbenigol eraill dan do ac yn yr awyr agored.
Mae’r tîm yn cynnwys Cydlynwyr Digwyddiadau, Technegwyr a Chynorthwyydd Gweinyddol penodedig. Rydym yn darparu gwasanaeth arlwyo llawn sy’n amrywio o giniawa preifat, i luniaeth ysgafn a bwffe wedi’u paratoi’n ffres ac at ddant pawb. Mae gennym gyfleusterau bar â thrwydded lawn ar bob un o’r pedwar campws. Ffordd sicr o werthfawrogi ansawdd ein gwasanaeth a’n cyfleusterau yw rhoi gynnig arnynt eich hun – trefnwch ymweliad i weld ein cyfleusterau gwych.
I siarad ag aelod o’n tîm, ffoniwch ni ar 01443 663213 / 01443 663024 neu anfonwch e-bost at parrya@cymoedd.ac.uk