Cyfrif Dysgu Personol (PLA) 

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig mynediad am ddim at gyrsiau hyblyg er mwyn meithrin y sgiliau ac ennill y cymwysterau perthnasol sydd eu hangen i ddatblygu eich gyrfa.  

Cymhwysedd unigol 

Profir cymhwysedd wrth ymgeisio. Mae’r unigolion canlynol yn gymwys ar gyfer y rhaglen: 

Rhaid i’r unigolion fod yn: 

  • Byw yng Nghymru 
  • Dymuno meithrin sgiliau / ennill cymwysterau mewn sectorau â blaenoriaeth 
  • 19 oed neu’n hŷn 

Yn ogystal, rhaid i unigolion fodloni o leiaf un o’r meini prawf 

  • Incwm canolrifol (£29,500) 
  • Gweithiwr ar gontractau sero awr 
  • Staff asiantaeth 
  • Mewn perygl o gael eich diswyddo 
  • Troseddwyr ar ddiwrnod astudio
  • Gofalwyr llawn amser (â thâl a rhai di-dâl)

Nid yw unigolion yn gymwys (wrth wneud cais) os ydynt yn unrhyw un o’r canlynol: 

  • Yn iau nag 19 oed 
  • Yn mynychu ysgol neu goleg yn llawn amser fel disgybl neu fyfyriwr 
  • Mewn addysg uwch lawn amser 
  • Yn ymgymryd â Dysgu Seiliedig ar Waith a ariennir gan Lywodraeth Cymru 
  • Yn wladolyn tramor anghymwys 
  • Yn derbyn Grant Dysgu neu Lwfans Cynhaliaeth Addysg y Cynulliad 
  • Yn ddi-waith h.y. nid oes ganddynt gontract cyflogaeth 

Cychwynnwch eich cais am gyllid PLA heddiw

Defnyddiwch y botwm isod i gwblhau ein Cynllun Hyfforddi PLA, i gychwyn ar eich gwaith o wneud cais am gyllid. Ar ôl i’ch Cynllun Hyfforddi gael ei adolygu gan y tîm, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am eich dogfennau ID ategol ac i gwblhau ein Ffurflen Ymrestru.

Er mwyn bod y cyllid a’r ymrestru yn cael eu cadarnhau ar gyfer y cwrs o’ch dewis, bydd angen 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad cychwyn y cwrs i ddelio â’r holl waith papur.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau