Mae’r Sector Addysg Bellach yn Ymateb i Argyfwng COVID gyda Hyfforddiant â Chymhorthdal Llawn i Gyflogwyr
Mewn ymateb i effaith llethol COVID-19 ar les economaidd Cymru, mae Coleg y Cymoedd wedi cydweithio â WEFO (Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru) i ddatblygu pecyn o gefnogaeth i helpu a chefnogi busnesau yn ystod y cyfnod hwn.
Gyda chefnogaeth cyllid CGE, gallwn nawr gynnig cymwysterau hyfforddi a datblygu achrededig i staff busnesau lleol â chymhorthdal o 100%.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod yr hyfforddiant hwn bellach ar gael ar gyfer cwmnïau cymwys ar unwaith, a disgwylir iddo redeg tan Mawrth 2022. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector o unrhyw faint sydd â chanolfan yng Nghymru, nad ydynt eisoes wedi derbyn mwy na 200,000 Ewro mewn cymorth gwladwriaethol de minimis dros y 3 blynedd ariannol ddiwethaf.
Rhaid i’r hyfforddiant fod yn gymhwyster cymeradwy ac achrededig ac mae’n cynnwys ystod o gymwysterau sy’n gysylltiedig â gwaith ac sy’n seiliedig ar gymhwysedd ar gyfer busnesau o unrhyw sector.
Mae Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) yn buddsoddi mewn pobl, a’i ffocws yw gwella cyfleoedd cyflogaeth ac addysg. Nid oes terfyn oedran uwch; nod y rhaglen hon yw cynyddu nifer y gweithwyr hyfedr yng Nghymru.
I weld a ydych chi’n gymwys i dderbyn cyllid CGE, siaradwch ag un o’n Swyddogion GCE. Bydd ein swyddogion yn gallu pennu cymhwysedd a byddant yn creu pecyn hyfforddi pwrpasol i ddiwallu anghenion eich busnes.
I siarad ag un o’n Swyddogion CGE, ffoniwch ni ar 01443 663025 neu anfonwch e-bost at bis@cymoedd.ac.uk
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra
*Ceir meini prawf cymhwystra