Rhif Adnabod Darparwr ELCAS: 8359
Os ydych chi’n aelod o’r Lluoedd Arfog neu’n gyn-aelod sydd wedi gadael yn ddiweddar, rydym ni’n barod i’ch helpu chi i feithrin sgiliau a datblygu’ch gyrfa.
Mae ELCAS (Cynllun Credydau Dysgu Estynedig) yn hyrwyddo dysgu gydol oes ymhlith aelodau’r Lluoedd Arfog. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol mewn tair blynedd ariannol ar wahân ar gyfer dysgu lefel uwch ar gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar Lefel 3 neu’n uwch.
Trwy ELCAS, gallwch hawlio rhandaliad o hyd at £2000 fesul hawliad. Mae gennych yr hawl i dri hawliad – mae ELCAS yn caniatáu ichi wneud un hawliad bob blwyddyn ariannol.
Efallai y bydd gan ELCAS gyfleoedd cyllido ychwanegol hefyd – gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Aelodau presennol y Lluoedd Arfog
Cyn bod yn gymwys i hawlio ELC, rhaid i aelodau unigol y cynllun fod wedi cwblhau dim llai na 6 blynedd o wasanaeth cymwys (haen is). Mae’r cyllid haen is yn rhandaliad o hyd at £1000 fesul hawliad.
Os ydych wedi cwblhau dros 8 mlynedd o wasanaeth cymwys (haen uwch), gallwch hawlio rhandaliad o hyd at £ 2000 fesul hawliad.
Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog
Cyn bod yn gymwys i hawlio ELC, rhaid ichi gyflwyno hawliad i’ch Cynrychiolydd Gwasanaeth Sengl. Os ydych yn gymwys, gallwch gyflwyno hawliad hyd at 5 mlynedd ar ôl ichi adael y Lluoedd Arfog.
Mae’r haenau sydd ar gael ichi’r un fath â’r haenau i aelodau presennol y Lluoedd Arfog.
Aelodau presennol y Lluoedd Arfog
Rhaid cyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’ch Staff Addysg o leiaf 25 diwrnod gwaith cyn dyddiad cychwyn / dyddiad cofrestru eich cwrs:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael ichi a sut i ddechrau’ch cais yma.
Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog
Rhaid cyflwyno’r wybodaeth ganlynol gyda’ch cais i’ch Cynrychiolydd Gwasanaeth Sengl o leiaf 25 diwrnod gwaith cyn dyddiad cychwyn / dyddiad cofrestru eich cwrs:
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael ichi a sut i ddechrau’ch cais yma.
Fel darparwr dysgu cymeradwy ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn ac aelod o’u Rhestr Darparwyr Credydau Dysgu Estynedig (ELCAS), gall Coleg y Cymoedd dderbyn credydau dysgu estynedig ar gyfer ystod o gyrsiau.
Gallwch ddod o hyd i’n rhestr lawn o’r cyrsiau sydd ar gael yma.
I siarad ag aelod o staff, ffoniwch ni ar 01443 663128 neu anfonwch e-bost at bis@cymoedd.ac.uk