Os ydych wedi colli eich swydd, efallai y bydd gennych hawl i gael arian gan ReAct i ailhyfforddi neu ddiweddaru eich sgiliau. Os oes gennych gyflogwr newydd mewn golwg, gallent gael arian hefyd tuag at eich cyflog a hyfforddiant pellach.
Mae ReAct yn darparu pecyn o gefnogaeth sy’n eich helpu i feithrin sgiliau newydd, goresgyn rhwystrau a gwella’ch siawns o ddychwelyd i’r gwaith cyn gynted ag y bo modd wedi ichi gael eich diswyddo.
Mae’r cymorth ariannol canlynol ar gael o dan ReAct*:
Os byddwch yn cael cynnig swydd ar ôl colli eich swydd yn ystod y 3 mis diwethaf, gallai eich cyflogwr newydd gael arian am eich cyflogi chi. Mae elfen Recriwtio a Hyfforddi ReAct yn gallu cynnig y canlynol i’ch cyflogwr*:
* Trafodwch yr opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael gyda’ch Cynghorydd Gyrfa
Os hoffech wneud cais am grant Hyfforddiant Galwedigaethol ReAct, yn gyntaf mae’n rhaid ichi weld eich Cynghorydd Gyrfa Oedolion yn eich swyddfa Gyrfa Cymru leol. Cysylltwch â nhw ar 0800 028 4844 i wneud apwyntiad. Bydd Gyrfa Cymru yn darparu eich pecyn cais.
Gallwch weld yr holl gyrsiau sydd ar gael o dan gyllid ReAct yma.
Os yw’ch darpar gyflogwr yn dymuno gwneud cais am Gymorth Recriwtio a Hyfforddi i Gyflogwyr, bydd angen iddynt gysylltu â Llywodraeth Cymru ar 03000 255 888.
I siarad ag aelod o’n tîm, ffoniwch ni ar 01443 663128 neu anfonwch e-bost at bis@cymoedd.ac.uk