Mae Gwasanaethau Busnes yng Ngholeg y Cymoedd yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant hanfodol a datblygiad ar gyfer unigolion a sefydliadau, gyda’r cyfraddau llwyddo yn rhai nodedig.
Mae ein cyrsiau yn amrywio o gyrsiau undydd hanfodol hyd at raglenni datblygiad proffesiynol 1 flwyddyn a mwy, gydag amrediad o ddulliau cyflenwi yn cynnwys wyneb yn wyneb, ar-lein a rhaglenni hyfforddi hunan-arweiniol. Hefyd, gellir cyrchu llawer o’r rhaglenni drwy wahanol ffrydiau cyllido – caiff unrhyw gyllido sydd ar gael ar gyfer y cwrs ei amlygu a’i nodi yn nisgrifiad y cwrs a gall ein tîm eich helpu gyda amodau a chanllawiau cymhwyster a’r broses o wneud cais.
Os bydd gennych ymholiadau am unrhyw un o’n cyrsiau neu am unrhyw un o’n ffrydiau cyllid sydd ar gael, cysylltwch â ni ar bis@cymoedd.ac.uk
Cyrsiau hanfodol ar gyfer unigolion a sefydliadau, yn addas ar draws pob sector yn amrywio o gyrsiau byr undydd i raglenni datblygiad proffesiynol 1 flwyddyn+.
Cyrsiau arweinyddiaeth a rheolaeth, addas ar gyfer reolwyr ac unigolion ar bob lefel sydd am ddatblygu eu rôl reoli.
Cyrsiau AD a chyrsiau Dysgu a Datblygiad penodol, addas ar gyfer unigolion sydd am gael swydd ym maes AD neu symud ymlaen yn eu swydd AD neu o fewn eu hadrannau Dysgu a Datblygiad.
Cyrsiau hanfodol iechyd a diogelwch a chymorth cyntaf, addas ar gyfer unigolion a sefydliadau.
Cyrsiau diogelwch tân yn amrywio o gyrsiau byr, diogelwch tân DPP hyd at gyrsiau hirach sy’n ffocysu ar ofynion allweddol.
Cyrsiau hanfodol sy’n addas ar gyfer pob maes lletygarwch yn cynnwys diogelwch bwyd a thrwyddedau personol.
Cyrsiau hanfodol yn addas ar gyfer rolau ar draws y sector adeiladu, yn cynnwys Ymwybyddiaeth o Iechyd a Gofynion Trydan 18fed Argraffiad.
Cyrsiau hanfodol ar gyfer amrywiaeth o rolau ar draws y sector peiriannau, yn amrywio o gyrsiau dechreuwyr hyd at gyrsiau prawf yn unig ar gyfer dysgwyr profiadol.
Cyrsiau cyfrifeg ac ariannol, sy’n addas ar gyfer rolau amrywiol o fewn y sector cyllid, gan gynnwys ein rhaglen AAT lwyddiannus iawn ar Lefel 4.
Cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol, yn cynnwys y cymhwyster Craidd Lefel 2 angenrheidiol.
Cyrsiau cydymffurfio â safonau ISO a rheoli risg, yn addas ar gyfer unigolion a sefydliadau.
Ar fin cael eu cyflwyno – Cymwysterau hanfodol gwaith nwy ar gael drwy ein Canolfan Ynni, yn cynnwys yr uned graidd a all fod yn rhai annibynnol neu ar y cyd ag unedau ychwanegol.
Cymwysterau MOS achrededig a chyrsiau Datblygu Cymwysiadau Gwefannau, wedi’u llunio i gynorthwyo dysgwyr i wella eu gallu digidol a gwella eu rhagolygon am swyddi.
Rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio o fewn y sector addysg a gwaith chware.
Rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio o fewn y sector addysg a gwaith chware.
Rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau ffitrwydd i gynorthwyo sefydliadau ac unigolion i ehangu eu cynigon a datblygu eu sgiliau o fewn y sector ffitrwydd
Rydyn ni’n cynnig ystod o gyrsiau addas ar gyfer unigolion sydd am ddatblygu yn y diwydiannau creadigol, yn cynnig cwrs rhagarweiniol ym maes trin gwallt a choluro ar gyfer ffilm a chwrs rhagarweiniol mewn ffotograffiaeth.
Rydyn ni’n cynnig cyrsiau PRINCE2 a Rheoli Prosiect ‘Agile’, ar lefel Sylfaen ac Ymarferwyr, i’n galluogi i gynorthwyo unigolion sy’n cychwyn ar eu gyrfa ym maes rheoli prosiect ac unigolion yn y sector sydd am ddatblygu eu sgiliau.