Rydyn ni’n darparu ystod eang o raglenni prentisiaeth ar draws ystod o sectorau sefydliadol a meysydd galwedigaethol, ac yn eu plith mae: Gweinyddu Busnes, Gofal Plant, Gwaith Adeiladu, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lletygarwch ac Arlwyo, Rheoli a Gwaith Rheilffyrdd.
Mae cyllid ar gael ar gyfer y canlynol:
Lefel 2: Prentisiaethau Sylfaen
Lefel 3: Prentisiaethau Uwch
Lefel 4+: Uwch Brentisiaethau
Y Manteision i’ch Busnes
Recriwtio sy’n cael eu ffafrio gyda’r economi fel y mae heddiw
Yn cael ei gydnabod fel llwybr i Addysg Uwch a swyddi lefel uchel
Rheoli “Gweithlu sy’n Heneiddio” a sicrhau’r genhedlaeth nesaf o weithwyr profiadol a chymwys
Mynd i’r afael â bylchau sgiliau yn eich sefydliad ar gyfer y dyfodol
Yn gallu mowldio gweithlu’r dyfodol “yn eich dull chi” gyda moeseg cwmni ac agweddau/syniadau
Y Manteision i Brentisiaid
Derbyn hyfforddiant o’r ansawdd uchaf
Datblygu Eich Sgiliau
Ennill cymwysterau wrth ennill cyflog
Gweithio ochr yn ochr â staff profiadol i ennill sgiliau penodol i’ch swydd
Pam dewis Coleg y Cymoedd?
Rydyn ni’n cael ein cydnabod gan Lywodraeth Cymru am ein bod yn ymateb i anghenion y farchnad lafur leol. Ymhlith yr enghreifftiau mae cyrsiau Datblygu Traciau Rheilffordd a Darpariaeth Prentisiaeth a Rennir
Yn cael ein cydnabod gan gyflogwyr fel rhai sy’n ymatebol iawn i’w hanghenion gyda’n darpariaeth wedi’i deilwra
Portffolio sylweddol i ddarparu ar gyfer yr holl anghenion hyfforddi ar sail masnachol a rhai wedi’i cyllido
Staff cymwys profiadol a chyfarwydd â diwydiant
Yn cael ein cydnabod gan Lywodraeth Cymru am ansawdd ein darpariaeth a’n canlyniadau, yn benodol ym maes Peirianneg a Gweithgynhyrchu
Cyfraddau llwyddiant rhagorol ar bob lefel o raglenni
Pa gefnogaeth allwn ni ei gynnig?
Wrth sefydlu rhaglen brentisiaeth, gallwn eich cefnogi gyda’r canlynol:
Datblygu’r mecanweithiau cymorth priodol
Prosesau a Gweithdrefnau
Recriwtio a Dewis
Monitro a Gwerthuso
Mynediad at raglenni wedi eu cyllido’n llawn
Adolygiad Perfformiad Dysgwyr
Fforwm Cyflogwyr
I gael sgwrs ag aelod o staff yn yr Ysgol Dysgu Seiliedig ar Waith, ffoniwch ni ar 01443 810060/810061 neu e-bostiwch at: workbasedlearning@cymoedd.ac.uk