Teuluoedd sy’n Lletya

Beth am fod yn deulu sy’n lletya ar gyfer Dysgwyr Coleg y Cymoedd (Rhyngwladol a’r DU)

Rydyn ni bob amser yn chwilio am deuluoedd i letya dysgwr ar ein pedwar campws (Aberdâr, Nantgarw, Rhondda ac Ystrad Mynach), teuluoedd a hoffai gynnig ystafell a phrofiad cartref i un neu i grŵp o’n dysgwyr. Byddai’r dysgwyr hyn angen llety yn amrywio o 2 wythnos hyd at  flwyddyn academaidd lawn. Weithiau, mae gennym ddysgwyr o wahanol genhedloedd sy’n chwilio am brofiad llawn o Gymru a’i diwylliant.

Mae gan rhai o’n teuluoedd blant ar yr aelwyd, eraill sy’n hoff o anifeiliaid ac yn meddu ar anifail anwes, tra bod eraill heb fod ag anifeiliaid ar yr aelwyd. Mae rhai o’n teuluoedd, gyda’u plant efallai’n hŷn ac wedi gadael gartref, ac yn dymuno cynnig eu hystafell sbâr i ddysgwyr. Cysylltwch â ni os oes diddordeb gyda chi i fod yn deulu sy’n lletya ar gyfer Coleg y Cymoedd.

Pwy all fod yn deulu sy’n lletya?

Os oes gennych ystafell/oedd sbâr o faint da yn eich tŷ a’ch bod chi a’ch teulu yn barod i letya dysgwr, yna gallech fod yn deulu delfrydol i letya. Byddai teulu sy’n addas i letya â diddordeb mewn croesawu dysgwyr o genhedloedd gwahanol, yn meddu ar y cyfleusterau priodol ac yn barod i gynnig profiad o gartref oddi cartref i rywun.

Mae lletya ein dysgwyr yn brofiad sydd yn rhoi boddhad, mae ein teuluoedd cyfredol a theuluoedd blaenorol yn ei ddisgrifio yn brofiad gwych i’r holl deulu ac mae rhai ohonyn nhw wedi parhau mewn cysylltiad â ni.

Y broses wirio

I ddod yn deulu sy’n lletya, rhaid i chi gofnodi’ch diddordeb.

Cam 1

Ar ôl i n i sefydlu eich bod yn byw mewn ardal lle mae angen teuluoedd i letya, byddwch yn  derbyn e-bost gennym yn gofyn i chi gwblhau ein ffurflen gais. Yna byddwn yn awtomatig yn gwirio 2 eirda gan ganolwr fesul oedolyn yn y teulu.

Cam 2

Byddwn wedyn yn gofyn i chi gychwyn proses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob aelod o’r teulu sydd dros 16.  Sylwer bydd angen i’r teulu dalu am y cais i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cam 3

Bydd ein Cydlynydd yn cysylltu â chi i drefnu adeg  ar gyfer archwilio’ch tŷ. Byddwn wedyn yn dod i’ch tŷ, gan ystyried yr ystafelloedd a’r cyfleusterau, y larymau tân a thystysgrifau diogelwch nwy (os oes gennych nwy), a chynnal gwiriadau ID fel y gallwn gwblhau proses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cam 4

Ar ôl i chi gael eich cofrestru, ac wedi derbyn cliriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a’r geirda a’n bod wedi archwilio’ch cartref, byddwch yn barod i gychwyn lletya myfyrwyr.

Ar ôl y gwirio cychwynnol a’ch bod yn deulu sydd wedi cael eich cofrestru’n llawn, byddwn yn awtomatig yn diweddaru Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn ail-ymweld â’ch cartref bob blwyddyn.

Be nesa?

Ar ôl i chi gael eich cofrestru’n llawn fel teulu sy’n lletya , byddwn ni’n chysylltu â chi cyn gynted ag y bydd dysgwyr yn chwilio am deulu o fewn eich ardal. Weithiau bydd dysgwyr am gael eu lletya yn syth, ac ar brydiau eraill bydd nifer o fisoedd yn mynd heibio cyn bod angen teulu i letya yn eich ardal. Rydyn ni, fodd bynnag yn cadw cysylltiad â’r holl deuluoedd sy’n lletya yn gyson i drafod darpar anghenion lletya a chynnig y newyddion diweddaraf.

Payments

All our hosts will receive monthly paid via BACS directly from the college when actively hosting. Payments are at £150 per week to include B&B with the addition of evening meals.

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau