Cyflwyno therapi anifeiliaid anwes i helpu dysgwyr coleg

 

Mae coleg yng Nghymoedd De Cymru wedi cyflwyno menter therapi anifeiliaid anwes fel ffordd newydd o helpu i ymgysylltu ymhellach â dysgwyr a allai fod mewn perygl o adael addysg fel arall.

Bydd y cynllun yn golygu y bydd Coleg y Cymoedd yn gweithio gydag Amser i Newid Cymru, yr ymgyrch genedlaethol gyntaf i roi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl. Y nod yw cefnogi dysgwyr a allai fod mewn perygl o ddatgyweddu ag addysg, cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd sesiynau therapi anifeiliaid anwes yn estyniad i ddarpariaeth gofal bugeiliol presennol y coleg. Fel un o ddarparwyr addysg bellach mwyaf y De, mae timau’r coleg bob amser yn wyliadwrus am arwyddion y gall fod angen cymorth ychwanegol ar ddysgwyr ac roeddent yn awyddus i archwilio ffyrdd newydd o helpu’r rheini sy’n wynebu heriau, megis pryder.

Bydd gwirfoddolwr Time to Change Wales, Alexandra Osborne, yn cynnal sesiynau ar gampysau’r coleg yn Nantgarw, Aberdâr, Y Rhondda ac Ystrad Mynach yn fisol gyda’i chi therapi, Dora.

Dechreuodd Alex gynnig therapi anifeiliaid anwes ddeng mlynedd yn ôl gyda’i chi defaid, Isla. Yn blentyn, treuliodd Alex lawer o amser yn yr ysbyty ac roedd gweld eisiau ei chi bob amser. Blynyddoedd yn ddiweddarach clywodd am fanteision cŵn therapi a phenderfynodd hyfforddi Isla i fod yn un. Dechreuodd fynd ag Isla i golegau a phrifysgolion i ymweld â phobl ifanc ag awtistiaeth a dysgwyr di-eiriau, ac fe’i syfrdanwyd fod llawer o bobl, nad oeddent yn siarad yn gyffredinol, yn siarad ag Isla.

Yn dilyn sgwrs gan Alex yng Ngholeg y Cymoedd am yr ymgyrch Amser i Newid a sut roedd ei chi wedi ei helpu’n bersonol, gofynnodd y coleg iddi gynnal sesiynau gyda dysgwyr. Bellach bydd Alex yn cynnal sesiynau gyda’i Jack Russell newydd, Dora, a chymerodd yr awennau fel therapydd pedair coes, trwy ‘Pets as Therapy’, pan ymddeolodd ci defaid Alex, Isla, i gael saib haeddiannol.

Esboniodd Alex, a oedd hefyd yn gweithio fel swyddog gwybodaeth ar gyfer elusen a leolir yng Nghasnewydd, MIND: “Mae’r cynllun yn werth chweil. Gwn yn uniongyrchol sut beth yw dioddef problemau iechyd meddwl a pha mor ddefnyddiol gall cŵn therapi fod. Mae fy nghŵn wedi fy helpu’n fawr dros y blynyddoedd gyda fy iechyd meddwl fy hun, felly roeddwn eisiau helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa. Mae gan gŵn y gallu i dawelu’r meddwl – gall dim ond mwytho ci leihau eich pwysedd gwaed.

“Mae’n anhygoel gweld sut mae’r ymweliadau’n helpu’r dysgwyr. Os bydd rhywun yn aros yn y coleg oherwydd Dora, yna mae hynn’n sicr werth chweil”.

“Mae’r sesiynau hanner awr yn y coleg yn caniatáu i’r dysgwyr eistedd gyda Dora, ei chofleidio ac ymlacio. I ddysgwyr sy’n teimlo dan straen neu’n dioddef o bryder, mae dim ond hanner awr gyda Dora yn helpu i’w tawelu ac yn gwneud iddynt deimlo’n well.

Mae Alex yn gweld bod amser gyda Dora yn ystod y sesiynau yn annog dysgwyr i siarad am maent yn teimlo, gan roi cyfle i Alex rannu ei phrofiadau ei hun a’u cyfeirio at gymorth pellach.

Wrth siarad am gyflwyno therapi anifeiliaid anwes, dywedodd Pennaeth  Coleg y Cymoedd, Karen Phillips: “Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i gael yr addysg orau i’w galluogi i fod yn llwyddiannus a symud ymlaen i brifysgol, gwaith neu brentisiaeth. Mae darparu’r lefel uchaf o ofal bugeiliol i bob dysgwr yn rhan allweddol o hyn.”

Mae hyn yn cynnwys cymorth academaidd rhagorol trwy raglen diwtorial bersonol helaeth, rhaglenni mentora, ymweliadau addysgol a siaradwyr gwadd. Ond, mae lles ein dysgwyr yr un mor bwysig ynghyd â gwaith ein timau cymorth dysgu arbenigol, sy’n gofalu am iechyd corfforol ac emosiynol dysgwyr.

“Cyflwyno therapi anifeiliaid anwes ar y campws yw’r cam diweddaraf wrth gefnogi ein dysgwyr i sicrhau eu bod yn gallu llwyddo wrth gael mynediad at y cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth sydd ar gael iddynt yma.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau