Cyfraniadau i Gynhadledd Genedlaethol Addysgu a Dysgu Colegaucymru

Cafodd talentau cerddorol Caitlin Lavagna o’r Porth eu cydnabod. Mae’r fyfyrwraig 17 oed ar hyn o bryd yn astudio Lefel A Drama, Cerddoriaeth a Bagloriaeth Cymru yng Ngholeg y Cymoedd ar gampws Nantgarw.

Mae Caitlin yn gantores hynod a gwnaeth ei dau berfformiad rhagorol o O Mio Babbino Caro gan Puccini a With You o’r ddrama gerdd Ghost argraff ar y beirniaid yn ei chlyweliad i ennill Gwobr nodedig John Tree.

Sefydlwyd cystadleuaeth gerddorol flynyddol John Tree a drefnwyd gan Gôr Meibion Pontypridd gan y diwydiannwr a’r cymwynaswr, John Tree MBE, Dirprwy Lefftenant Canol Morgannwg. Mae’r Wobr yn dathlu a gwobrwyo cerddoriaeth yn ardal Pontypridd.

Dywedodd Caitlin: “Ron i wrth fy modd i ennill y Wobr. Dw i wedi bod yn canu ers cyn cof. Dw i hefyd yn mwynhau actio, dawnsio a chwarae’r drymiau. Dw i wedi bod yn ffodus i gael cyfle i berfformio ar nifer o lwyfannau enwog ochr yn ochr ag unigolion a grwpiau enwog. Fy uchelgais ydy astudio gradd mewn naill ai Offerynnau Taro neu Ddrama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a dilyn gyrfa yn y celfyddydau”.

Mae Caitlin hefyd yn bianydd, yn ddrymwraig a dawnswraig dalentog ac mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd, bandiau gwerin, a grwpiau Dawns a Theatr. Un o’i chyflawniadau dawnsio pwysicaf hyd yn hyd ydy perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd fel rhan o gynhyrchiad Mzanzi Cymru o ‘Torchbearers’, stori am ‘Apartheid’ sy’n cynnwys dawnswyr proffesiynol ifanc a ‘Zip Zap Circus Crew’ o Dde Affrica.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau