Cafodd dwy o ddysgwyr Academi Pêl-droed Merched Elit Coleg y Cymoedd ei henwi yn Nhîm Cenedlaethol Merched Cymru.
Cyhoeddodd y Rheolwraig, Jayne Ludlow, enwau Sgwad Tîm Cenedlaethol Merched Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Kazakhstan yn Hwlffordd.
Mae Chloe Chivers & Shaunna Jenkins yn aelodau o’r Academi Pêl-droed Merched Elit a gynigir mewn partneriaeth ag Academi Pêl-droed Cymru ac wedi’i leoli ar gampws Ystrad Mynach o Goleg y Cymoedd.
Mae Tîm Cenedlaethol Merched Cymru yn chwarae yn erbyn Kazakhstan mewn gêm gymhwyso ar gyfer EURO Merched UEFA Ddydd Iau Tachwedd 26 yn Stadiwm Conygar Bridge Meadow yn Hwlffordd.
Dywedodd Shaunna Jenkins, 16 oed o Aberaeron, sy’n chwarae i Cwmbran Celtic: “Mae bod yn yr Academi Elit wedi ein helpu i wella a deall yr hyn mae’n ei gymryd i fod yn beldroedwraig o’r radd flaenaf. Mae hyn y gyfle gwych i ni a rydw i wir yn gyffrous.â€
Dywedodd Chloe Chivers, 16 oed o Abertyleri, sydd hefyd yn chwarae i Cwmbran Cetic: “Rydyn ni’n ffodus yn y coleg i allu astudio bob bore a hyfforddi bob prynhawn. Mae’n anrhydedd fawr i fynd i ffwrdd gyda sgwad Cymru ac mae’r coleg wedi bod yn gefnogol iawn.â€
Mae Cymru’n dechrau’r gêm yn erbyn Kazakhstan wedi colli dwy gêm oddi cartref – un yn erbyn Awstria (3-0) a’r llall yn erbyn Norwy (4-0) – ond yn gobeithio ennill yn erbyn Kazakhstan, sydd eto i ennill ond wedi llwyddo i ddod yn gyfartal ag Israel 0-0.
Mae dysgwyr sydd wedi ymuno â’r Academi o bob cwr o’r wlad yn dathlu’r cyfle i gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau rhyngwladol. Ochr yn ochr â’u hyfforddiant o’r radd uchaf, mae’r dysgwyr yn astudio ar gyfer cymwysterau galwedigaethol mewn chwaraeon neu Lefel A.
Mae dysgwyr Academi Pêl-droed Elit yn elwa o gael hyfforddiant ar y cyfleusterau helaeth yng Nghanolfan Ragoriaeth Chwaraeon Caerffili sydd gyferbyn â champws Ystrad Mynach.