Gyda llond plât o chwerthin dathlwyd bywyd y comedîwr enwog o Gaerffili gyda phryd o fwyd unigryw.
Nododd Cymdeithas Tommy Cooper benblwydd 95 oed y dewin o gomedïwr mewn cinio agored ym Mwyty Scholars, Coleg y Cymoedd, ar Gampws Ystrad Mynach.
Mynychodd tua ugain o aelodau o Gaerffili, Bryste a Weston-super-Mare y cinio lle roedd pob gweinydd yn gwisgo ‘fez’, ac yn yr achlysur adroddwyd straeon a pharatowyd teisen fez wedi’i choginio’n arbennig ar gyfer y digwyddiad.
Mae’r gymdeithas wedi cynnal nifer o giniawau coffa tebyg ers 2004 ac un o sylfaenwyr y gymdeithas, Y Cynghorydd Elizabeth Aldworth, o ward Bedwas, Trethomas a Machen gafodd y dasg o dorri’r deisen.
Llywydd presennol y gymdeithas, Tudor Jones, oedd un o’r ffans teyrngar a sefydlodd y gymdeithas yn enw Tommy yn 2003 gyda’r bwriad o godi cerfddelw iddo yn ei dref enedigol.
Dywedodd: “Dwi’n credu mai fe oedd un o’r comedïwyr mawr a mae pawb hyd yn oed heddiw yn meddwl y byd ohono fe.
“Roedd e’n eicon comedi a dewiniaeth ac roedd yn glyfar ac yn alluog er gwaethaf ei act o greu’r argraff ei fod yn ddi-glem.â€
Ychwanegodd: “Roedd ei hiwmor yn apelio at y teulu cyfan ac fel cymdeithas rydyn am gadw’r math hwnnw o ysbryd yn fyw.
 “Fel trigolion Caerffili, dylen ni ganu ei glodydd ac erbyn hyn mae ei gerfddelw yn un o symbolau’r dref ynghyd â Chastell Caerffili.â€
Ganwyd Tommy yng Nghaerffili yn 19 Stryd Llwyn-On, Energlyn, yn 1921 ac fe’i anfarwolwyd pan ddadorchuddiwyd ei gerfddelw yn 2008 gan noddwr y gymdeithas a seren Hollywood, yr actor Syr Anthony Hopkins.
I ddathlu wyth mlynedd ers y dadorchuddio, dangosodd un o aelodau’r pwyllgor, Margaret Jones y gorchudd yr oedd Syr Anthony Hopkins wedi’i lofnodi, yn croniclo’r ‘pethau technegol doniol aeth o’u lle’ ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw.
Fel rhan o’r dathliadau, darllenodd aelodau lythyr gan Vicky Cooper, merch Tommy, yn cyhoeddi gwobr er cof am gyn lywydd y gymdeithas a maer Caerffili, Y Cynghorydd Angus Donaldson, a fu farw yn 2014.
Daeth Tommy Cooper yn enwog am ei jôcs a’i driciau gwirion a bu farw o drawiad ar y galon ar y llwyfan yn ystod darllediad byw roedd milyniau o bobl yn ei wylio, ym 1984.Â
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r gymdeithas wedi parhau i’w gofio gydag ymgyrch “Tommy’s Tickerâ€, yn gosod diffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys Canolfan Twyn, Llyfrgell Caerffil a Chastell Caerffili.
Yn y dyfodol, gobaith y gymdeithas ydy lansio gŵyl ddewiniaeth er cof am Tommy.
Ychwanegodd Mr Jones: “Rydyn ni’n ceisio annog pobl ifanc yn barhaus i ddod yn rhan o’r gymdeithas a chymryd rhan ynddi a hoffen ni weld mwy o bobl yn mynd i mewn i’r celfyddydau perfformio.
“Dangosodd y Cylch Hud (The Magic Circle) ddiddordeb yn ein helpu gyda hyn a gobeithio ryw ddiwrnod y gallwn gynnal ‘Gŵyl Ddewiniaeth Tommy Cooper’ yn ei dref enedigol.â€
Mae’r Gymdeithas yn dal i gynnal yr achlysur blynyddol i ddathlu penblwydd Tommy Cooper ym Mwyty Scholars ar Gampws Ystrad Mynach, Coleg y Cymoedd, lle maen nhw’n cael pryd tri chwrs moethus wedi’i goginio gan fyfyrwyr y cwrs arlwyo. Ewch i wefan /restaurants i neilltuo bwrdd ym Mwyty Scholars.Â
“