Enillodd dysgwyr o gampws Ystrad Mynach fedalau aur ac efydd mewn amrywiaeth o gampau ym Mhencampwriaethau Colegau Prydain ym Mhrifysgol Caerfaddon.
Bu’r timoedd yn cystadlu yn rowndiau terfynol y DU ac yn cynrychioli Cymru mewn cystadlaethau chwaraeon yn cynnwys Tennis, Trampolinio a Thenis Bwrdd. Rhoddodd y dysgwyr eu hymarfer caled ar waith yn y gystadleuaeth a barodd am benwythnos gyfan yn erbyn timoedd colegau eraill ar draws Iwerddon a’r Alban.
Dangosodd Dan Wood, myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Cymoedd, yn astudio Diploma BTEC Lefel 3 ei allu i ennill y fedal aur yng nghystadleuaeth y trampolin.
Gwelwyd uned mor glos oedd tîm trampolin Dan a’i dri gyd aelod wrth ennill y fedal efydd ar gyfer Tîm Cymru a hynny gyda llai o aelodau yn eu tîm na’u gwrthwynebwyr.
Bu rhaid i Alexandra Evans enillydd y fedal aur y llynedd yng nghystadleuaeth bwrdd tenis wynebu cystadleuaeth frwd yn erbyn aelodau academïau arbenigol. Er gwaethaf bod ar ei hôl hi yn y gemau cynnar, enillodd ei gêm derfynol i ennill ei hail fedal aur mewn dwy flynedd.
Cymerodd Natasha Lewis, Nathan Jenkins, Kim Williams a Mary-Ann Lewis ran yn y gemau pâr cymysg. Er bod y gamp yn un newydd iddyn nhw, fe frwydron nhw’n galed yn erbyn timoedd llawer mwy profiadol a llwyddo i ddod yn 10fed yn y DU.
Dywedodd eu darlithydd, Mark Davies “Mae hyn yn wych, ac fe wnaeth y dysgwyr waith penigamp ym Mhencampwriaeth Colegau Prydain. Hoffwn ddiolch i’r holl staff a’r dysgwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad drwy’r penwythnos.
Yn ôl Dan Wood “Roedd yn wych i gyrraedd Pencampwriaethau Colegau Prydain ac i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth ledled y DU ond yn anhygoel i lwyddo ac ennill medalau.”
Bu un aelod o’r staff hefyd yn llwyddiannus. Llwyddodd Gemma Hallett o gampws Ystrad Mynach i ennill aur gyda thîm Rygbi Merched 7 bob-ochr Colegau Cymru.
“