Coleg y Cymoedd yn derbyn gwobr i gydnabod ei Gymorth Gyrfa rhagorol

Mae Coleg y Cymoedd yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn Gwobr Datblygu Gyrfa Gyrfa Cymru. Cyflwynir y wobr hon i golegau addysg bellach a all ddangos eu hymrwymiad i ddatblygiad tymor hir addysg yn ymwneud a gyrfa drwy weithio’n agos gyda Gyrfa Cymru; adnabod meysydd allweddol i’w datblygu, a gweithredu cynllun i fynd i’r afael â’r rhain.

Gweithiodd Samantha Hobby, Cydlynydd Gweinyddol UCAS a Chymorth Gyrfa Coleg y Cymoedd, yn agos gyda’r Ymgynghorwyr o Dîm Cwricwlwm Gyrfa Cymru i gynnal archwiliad trylwyr o ddarpariaeth gyrfa’r coleg, i adnabod meysydd i’w datblygu a chynhyrchu cynllun gweithredu cydweithredol.

Paratôdd Samantha yr asesiadau a choladu’r dystiolaeth i gyrraedd y safonau, gan dynnu sylw at yr ystod o wasanaethau cymorth a gynigir i’r dysgwyr sy’n eu paratoi ar gyfer eu dyheadau yn y dyfodol. Datblygiad allweddol fu sefydlu Tîm y Dyfodol i gynorthwyo dysgwyr gyda phontio o’r coleg i’r brifysgol a’r byd gwaith. Cymeradwywyd hyn gan banel Gyrfa Cymru, ynghyd â chyflwyno digwyddiadau rhithwir llwyddiannus i ddysgwyr a rhieni yn ystod cyfnod heriol y pandemig.

Mae staff y coleg yn cefnogi miloedd o ddysgwyr llawn amser a rhan amser bob blwyddyn a bydd y llwyddiant diweddar yn golygu y bydd y coleg yn cadw’r wobr hon tan 2024, gan sicrhau parhad yr agwedd bwysig hon ar ddarpariaeth y coleg. Mae’r bartneriaeth barhaus gyda phrifysgolion, cyflogwyr a sefydliadau eraill i gefnogi ein dysgwyr wedi bod yn ysbrydoledig ac mae’r coleg yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth barhaus hon.

Gan ddiolch i Samantha am ei gwaith yn cyflwyno’r dystiolaeth ac i’r staff sy’n darparu’r gwasanaethau, dywedodd y Pennaeth Karen Phillips “Rwy’n falch iawn bod y coleg wedi ennill y wobr hon. Mae hyn flaenoriaeth allweddol i’r coleg ac mae ein staff yn allweddol wrth ddarparu cefnogaeth o safon uchel i’n dysgwyr, p’un a ydynt am fynd i’r brifysgol, dechrau prentisiaeth, cael gwaith neu sefydlu eu busnes eu hunain. Cydnabuwyd ystod cefnogaeth o ansawdd uchel y coleg yn sylwadau’r Aseswyr”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau