Cynhaliwyd dathliad ar gampws Nantgarw, Coleg y Cymoedd, i gydnabod llwyddiant dros 80 o ddysgwyr Cymoedd a fu’n cystadlu mewn ystod o Gystadlaethau Sgiliau drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r coleg yn falch iawn o weld cynnydd o 107% yn nifer y categorïau y mae dysgwyr Coleg y Cymoedd wedi cystadlu ynddynt, yn amrywio o Harddwch i Adeiladwaith.
Yn 2018, cofrestrodd 61 o ddysgwyr ar gyfer cystadlaethau Sgiliau, ond eleni mae’r nifer sydd wedi cofrestru wedi codi i 104, sef cynnydd o 70%.
Mae’r coleg wedi chwarae rhan sylweddol yng nghystadlaethau eleni, nid yn unig gyda nifer y ceisiadau ond hefyd wrth gynnal nifer o ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru – Gwallt a Harddwch, Adeiladwaith, Cyfryngau Cynhwysol a Choginio.
Mae’r trefnu cynnal digwyddiadau o’r fath wedi bod yn heriol ar adegau ond yn sicr yn werth chweil.
Mae nifer o staff y coleg hefyd wedi croesawu Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac wedi cwblhau’r cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Sgiliau Ysbrydoli. Llongyfarchiadau i Ange Fitzgerald, Chris Summeril, Phil Gorman, Steve Robins, Sam James a Geraint Kettley.
Meddai’r Tiwtor Busnes Sam James, sy’n dysgu ar gampws Ystrad Mynach “Roedd yn ffordd dda iawn o rwydweithio â chydweithwyr o golegau eraill, cael cipolwg ar gystadlaethau sgiliau a datblygu fy ngwybodaeth ohonynt a sut y gall dysgwyr elwa o’r profiadauâ€.
Mae Coleg y Cymoedd yn falch o’r holl ddysgwyr a gymerodd ran yn y cystadlaethau, maent wedi bod yn gynrychiolwyr ardderchog ar gyfer y coleg, gan ddatblygu eu sgiliau 21ain Ganrif yn barod ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Un llysgennad o’r fath ar gyfer y coleg yw Alys Evans a gofrestrodd ar y cwrs VRQ Lefel 2 Coginio Proffesiynol a’r cwrs NVQ Lefel 3 Patisserie ar gampws Nantgarw ar ôl cwblhau ei TGAU yn yr ysgol.
Tra’r oedd yng Ngholeg y Cymoedd, aeth Alys i nifer o gystadlaethau Sgiliau ac yn dilyn ei llwyddiant yn Skills UK mae hi wedi bod ar daith wych; yn hyfforddi ar gyfer y posibilrwydd o gynrychioli’r DU yn Worldskills yn Kazan.
Er gwaethaf ei dygnwch, ei phenderfyniad a’i gwaith caled collodd Alys allan i ddysgwr o Goleg Hull. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi rhwystro Alys ac yn ddiweddar mae wedi teithio i Wlad Belg gyda Thîm Coginio Cymru. Mae Alys yn enghraifft ardderchog o sut y gall y cystadlaethau Sgiliau agor drysau i heriau newydd. Pan gwblhaodd ei hastudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd ni allai fod wedi breuddwydio am y dyfodol oedd o’i blaen.
Wrth longyfarch y dysgwyr a’r staff, dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd y Coleg “Mae’r Coleg yn falch iawn o weld cynnydd yn nifer ein dysgwyr sy’n cael y cyfle i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae’n galonogol gweld llawer o gategorïau yn cael eu hychwanegu at y cystadlaethau, gan alluogi dysgwyr o bob rhan o’r coleg i gymryd rhan.
Llwyddodd nifer o’n dysgwyr i ennill y safleoedd gorau yn eu cystadlaethau ac rwyf wrth fy modd yn dweud bod y coleg wedi ennill 5 medal Aur, 3 Arian a 6 Efydd – canlyniad anhygoel â€.