Cymoedd yn cynnal Gŵyl Digi’r Rhondda!

Yn dilyn llwyddiant Jam Gemau’r Rhondda’r llynedd, roedd staff ar gampws y Rhondda, Llwynypia yn falch iawn o gynnal Gŵyl Digi’r Rhondda eleni!

Trefnwyd y digwyddiad gan People & Work (elusen o Gymru), Llysgenhadon STEM Prifysgol Caerdydd ac ysgolion cynradd lleol gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen Y Cymoedd a Sefydliad Waterloo. Gwahoddwyd staff, dysgwyr a’r gymuned i’r digwyddiad i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sy’n bodoli ar gyfer dysgu, gweithio a chwarae yn y byd digidol.

Cynhaliodd cynrychiolwyr o brifysgolion ac ysgolion a chyflogwyr ystod o weithgareddau digidol. Ymhlith y rhain roedd llysgenhadon Clwb Cod, cynrychiolwyr o’r prifysgolion a’u timau Techno Camp, gemau retro, gemau arcêd, adeiladu gemau, adeiladu a dylunio gwefannau a llawer mwy. Roedd yn ddiddorol gweld saith ysgol gynradd leol yn arddangos eu prosiectau Clwb Cod ar y thema “Caru lle rydych chi’n byw!” Dyluniodd pob ysgol gêm gan ddefnyddio sgiliau codio a ddysgwyd yn eu clybiau cod gyda chefnogaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwahoddwyd yr holl blant i bleidleisio am eu hoff gêm. Enillydd eleni, mewn cystadleuaeth o safon eithriadol o uchel, oedd Tîm Cynradd Gelli 1. Ymwelodd dwy ysgol gynradd arall â’r ŵyl ynghyd â disgyblion a myfyrwyr o ysgolion uwchradd a holl safleoedd Coleg y Cymoedd.

Dywedodd Jordan Rosser, 20 o’r Porth, sy’n astudio ar gwrs Diploma Atodol Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Cerdd ar gampws y Rhondda ac a fynychodd y digwyddiad, Roedd yn ddigwyddiad da ar gyfer rhwydweithio a meithrin cysylltiadau. Roedd pawb yn gyfeillgar a chymwynasgar iawn.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Campws, Carolyn Donegan, “Roedd digwyddiad eleni yn llwyddiant mawr arall, rhoes gyfle i’n dysgwyr brofi ystod o’r gweithgareddau digidol a hefyd siarad â’r cyflogwyr i ddysgu mwy am yrfaoedd amrywiol yn y maes hwn”.

Dywedodd Rheolwr Prosiect People & Work, James Hall, “Dyma’r Å´yl Ddigidol fwyaf eto ar Gampws y Rhondda! Llifodd dros 300 o blant a phobl ifanc drwy Bloc D! Roedd staff a ddaeth gyda’r ymwelwyr yn chwarae rhan fawr hefyd, gan gynnwys dau athro o Ysgol Iau’r Cymer a oedd wrth eu bodd yn canu’r gitâr roc a’r drymiau, gyda chefnogaeth un o’u disgyblion ar y bysellfwrdd! Roeddwn wrth fy modd yn fy addysgu sut roedd pob gêm yn gweithio gan ddisgyblion mor ifanc â saith oed! ”

Dywedodd un fam, “Mae fy mab wrth ei fodd â hyn! Dim ond saith oed yw e ond mae eisiau dylunio a chreu gemau yn seiliedig ar yr hyn y mae’n ei ddysgu nawr. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau