Cymoedd yn dathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Ar Ragfyr 6, dathlodd y coleg y Diwrnod Hawliau’r Gymraeg cyntaf #maegenihawl, ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg.

Nod y diwrnod yw hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru o dan Safonau’r Gymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Rhaid i Goleg y Cymoedd gydymffurfio â dros 200 o Safonau’r Cymraeg sy’n gysylltiedig â phob agwedd ar fywyd coleg.

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i ganolbwyntio ar lond llaw o’r gwasanaethau y mae’r coleg yn eu darparu ar gyfer dysgwyr, staff ac aelodau o’r cyhoedd sy’n siarad Cymraeg ac i hyrwyddo’r gwasanaethau hynny: arwyddion dwyieithog, cynnwys dwyieithog ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Coleg y Cymoedd, yr hawl i ymgeisio am swyddi yn y coleg drwy gyfrwng y Gymraeg, gohebiaeth a ffurflenni yn Gymraeg a gwefan ddwyieithog.

Hyrwyddwyd yr hawliau hyn ar draws y pedwar campws yn Aberdâr, Nantgarw, y Rhondda ac Ystrad Mynach a thrwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y coleg.

Gan siarad ar ran y coleg, dywedodd Jonathan Morgan, Is-Bennaeth / Prif Swyddog Gweithredol “Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg a gwasanaethau dwyieithog ar draws y coleg”.

Gan adleisio gwaith y coleg i gefnogi siaradwyr Cymraeg, ychwanegodd Rhys Journeaux, sy’n astudio ar y cwrs Gosod Trydan Lefel 1 ar gampws Ystrad Mynach “Mae’r Gymraeg yn bwysig i mi. Rwy’n falch bod y Coleg yn gofalu am fy hawliau fel siaradwr Cymraeg gan ei fod yn fy helpu i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg ”.

Cydnabu Comisiynydd Cymraeg, Aled Roberts, y gwaith a wnaed gan y Coleg a nododd “Bellach mae dros 120 o sefydliadau yn gweithredu safonau’r Gymraeg, sy’n golygu fod gan y cyhoedd hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw. Rydym yn falch fod sefydliadau megis Coleg y Cymoedd wedi manteisio ar y cyfle heddiw i hyrwyddo’r hawliau ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg. Gadewch i ni, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, wneud y mwyaf o’r hawliau hyn a dewis y Gymraeg.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau