Llongyfarchiadau i dri dysgwr y Coleg a gwblhaodd Dyfarniad Lefel 3 Agored mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg y llynedd. Ar hyn o bryd mae Megan Thomas, Demi Parsons a Jessica Morgan yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Nantgarw. Cyflwynwyd y cwrs cyfoethogi hwn ar ein Campws Nantgarw gan Ceri Davies, athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac fe’i hariannwyd gan Goleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywedodd Simon Jenkins, Pennaeth yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg y Cymoedd: “Diolch yn fawr i Goleg Cymraeg Cenedlaethol am ariannu’r hyfforddiant hwn ac i Ysgol Gyfun Rhydywaun am weithio gyda ni i gyflwyno’r cwrs cyfoethogi hwn. Roedd y dysgwyr yn gwerthfawrogi gallu datblygu sgil mor werthfawr drwy gyfrwng y Gymraeg – sgil a fydd yn sicr yn ddefnyddiol iawn iddynt yn eu gyrfa yn y dyfodol. â€