Cyfle i ennill cymhwyster ychwanegol, sef astudio Unedau Gofal Cwsmeriaid cyfrwng Cymraeg (Cymraeg Gwaith) ar draws ystod o ddosbarthiadau mewn Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Arlwyo, Busnes, Teithio a Thwristiaeth, Y Diwydiannau Creadigol, Adeiladu, Peirianneg, Gwallt a Harddwch, Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus a Pheirianneg Fodurol.
Sesiynau bach byr a hwylus lle dysgir sgiliau siarad Cymraeg sylfaenol i ddysgwyr a aeth i ysgolion cyfrwng-Saesneg cyn iddynt ymuno â’r Coleg.
Beth allwn ni ei wneud yn y Coleg i dy helpu di i gynnal neu wella dy sgiliau Cymraeg? Neu ddysgu ychydig o Gymraeg yn ystod dy amser yn y Coleg os nad wyt wedi ei dysgu o’r blaen?
– Geirfa o dermau pwnc-benodol dwyieithog
– Cyfleoedd i ddysgu/ddefnyddio dy Gymraeg trwy fynychu’r sesiynau DRAGON BITES a gweithgareddau wedi’u hamserlennu
– Sesiynau Cymraeg i ddechreuwyr (Wythnos Gymreig)
– Sesiynau arddangos ar sut i ddefnyddio CYSGLIAD gan gynnwys Cysgeir (geiriadur ar-lein) a Cysill (gwirydd sillafu a gramadeg) a gwefannau defnyddiol eraill
– Gwybodaeth am wefannau dysgu iaith megis Say Something in Welsh a Duo Lingo
– Cyfeirio at ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg yn eich cymuned
Os oes angen unrhyw help ychwanegol arnat neu os hoffet ofyn am gymorth mewn agweddau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm, cysyllta â Rheolwr y Gymraeg, Lois Roberts, lois.roberts@cymoedd.ac.uk
Yma, yng Ngholeg y Cymoedd, dyn ni’n hoffi ymhyfrydu yn y pethau sy’n unigryw ac yn arbennig am fyw yng Nghymru trwy ddathlu calendr o ddigwyddiadau Cymraeg a Diwylliant Cymru
e.e. Diwrnod Shwmae, Su’mae, Dydd Santes Dwynwen, Yr Wythnos Gymreig, Diwrnod Arwyr Cymru
Bydd digon o gyfleoedd gyda ti i gymryd rhan ac i ennill gwobrau gwerth eu hennill!