
Mae’r Gronfa Ariannol wrth Gefn (FCF) ar gyfer dysgwyr mewn aelwyd incwm isel. Gallant fod mewn perygl o adael y coleg oherwydd anawsterau ariannol ac amgylchiadau heriol.
Darperir yr FCF i Goleg y Cymoedd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ein dysgwyr. Mae’n gyfyngedig ac yn amodol ar newid o dymor i dymor yn unol â lefel y cyllid y mae Coleg y Cymoedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
I gael eich ystyried ar gyfer FCF mae’n rhaid i chi fod:
Mae meini prawf pellach yn dibynnu ar a ydych yn hawlio am:
I fod yn gymwys rhaid i chi fod yn:
Nid yw Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) na Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn gymwys.
Gall pobl ifanc sy’n derbyn y budd-daliadau hyn yn uniongyrchol, yn hytrach na thrwy riant neu warcheidwad, wneud cais hefyd.
Nid yw’r budd-daliadau hyn yn rhan o unrhyw brofi modd ac ni ddylid eu cynnwys mewn cyfrifiadau ar gyfer Credyd Treth Plant neu Gredyd Cynhwysol.
Rydych chi’n gymwys i gael elfen gymorth arall yr FCF cyhyd â’ch bod:
Os ydych chi’n bodloni’r meini prawf ac rydych chi’n 16-18 oed, gallwch gael help gyda phrydau am ddim a chostau eraill sy’n gysylltiedig â’ch dysgu.
Os ydych chi dros 18 oed, ni allwch hawlio am brydau bwyd, ond gallwch gael help gyda threuliau eraill o hyd.
Gall dysgwyr cymwys o unrhyw oedran gael help gyda:
Efallai y byddwch yn gallu cael tocyn bws, ad-daliad trên neu grant teithio os nad ydych eisoes yn cael eich cefnogi gan yr Awdurdod Addysg Lleol (AALl).
Rydyn ni’n cefnogi teithio cynaliadwy ac yn annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny’n bosibl.
Gallwch hawlio cost llawn y cit yn ôl os ydych wedi cofrestru ar gwrs llawn amser. Mae’r cyrsiau’n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Gwallt a Harddwch, Arlwyo a Chwaraeon.
Gallwch hawlio cost lawn gwiriad DBS yn ôl os oes angen un arnoch fel rhan o’ch cwrs.
Bydd y Coleg yn talu hyd at uchafswm o £70 y dydd am eich ffioedd gofal plant.
Mae’r gyllideb ar gyfer cymorth gofal plant yn gyfyngedig ac yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Nid yw’r Coleg yn derbyn unrhyw atebolrwydd am eich dewis o ddarparwr gofal plant, nac unrhyw atebolrwydd am y gofal a ddarperir gan eich darparwr gofal plant dewisol.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn fodlon â’ch darparwr gofal plant cyn ymrwymo i gytundeb cyfreithiol priodol gyda nhw.
Gallwch wneud cais am FCF drwy fewngofnodi i’ch cyfrif dysgwr.
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost o gymeradwyaeth gan Wasanaethau Dysgwyr yn cadarnhau’r math o gymorth y cytunwyd arno a chyfarwyddiadau ynghylch beth i’w wneud nesaf.
TEr mwyn cefnogi eich cais am brydau am ddim, efallai y bydd angen i chi ddarparu copi o’r dadansoddiad llawn o’r Credyd Cynhwysol, gan gynnwys enw a chyfeiriad y derbynnydd.
Rhaid i chi uwchlwytho eich tystiolaeth i’r ffurflen gais pan fyddwch yn gwneud cais. Os na wnewch chi, ni ellir prosesu eich cais.
Ar gyfer cymorth arall, cyn belled â’ch bod wedi llofnodi eich cytundeb dysgwr gyda’r coleg a’ch bod yn derbyn naill ai:
Ni fydd angen i chi uwchlwytho tystiolaeth bellach i’r ffurflen gais.
Siaradwch â’r Tîm Gwasanaethau Dysgwyr a Champws – yn y dderbynfa ar eich campws.
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR





