Ymwelodd cyn-fyfyriwr Coleg y Cymoedd Calum Haggett â’r coleg gyda’r Athro Chris Butler o Goleg y Drindod Rhydychen i drafod cynllun newydd cyffrous yn y coleg gydag Ian Rees, Cyfarwyddwr Safon Uwch. Bydd y cynllun yn cefnogi ac yn mentora dysgwyr Safon Uwch Coleg y Cymoedd sy’n bwriadu gwneud cais i astudio Meddygaeth neu Wyddorau Biofeddygol yn y brifysgol.
Bydd yr Athro Butler yn gweithio gyda Choleg y Cymoedd i sicrhau bod myfyrwyr yn ennill profiad gwaith perthnasol yn y maes gofal iechyd a’u bod wedi’u paratoi’n drylwyr ar gyfer y cyfweliadau, a bydd Calum yn cefnogi eu paratoadau ar gyfer y profion gallu y mae’n rhaid eu pasio er mwyn cael mynediad i’r Ysgol Feddygol. Heyd, bydd y ddau yn fentoriaid i’n darpar Feddygon y dyfodol!
Astudiodd Calum yng Ngholeg y Cymoedd gan ennill 3 gradd A a gradd A * yn ei  gyrsiau Safon Uwch – ar hyn o bryd mae’n fyfyriwr Meddygaeth graddedig yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen.
Â
“