Rhagfyr 7 yw Diwrnod Hawliau’r Gymraeg. Mae’n ddiwrnod a sefydlwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo’r defnydd o wasanaethau Cymraeg a ddarperir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru o dan Safonau’r Gymraeg Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. O dan y Mesur mae gan ein myfyrwyr, ein staff ac aelodau o’r cyhoedd yr hawl i wasanaethau Cymraeg yn y Coleg.
Mae Coleg y Cymoedd yn gweithio’n galed i ddatblygu’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg ac i sicrhau bod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gael i’n myfyrwyr sydd am ymgysylltu â’r iaith. Felly, mae’r Coleg wedi penderfynu bachu ar y cyfle hwn i lansio adran newydd sbon ar y porth ‘Bywyd Myfyrwyr’ ar wefan y Coleg.
Mae’r adnodd newydd hwn wedi’i rannu’n dair rhan – un rhan ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn hyrwyddo eu hawliau o dan Safonau’r Gymraeg; opsiynau sydd ar gael iddynt i astudio yn y Gymraeg; adnoddau i’w cefnogi yn eu dysgu; a chyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn anffurfiol er mwyn cadw eu sgiliau. Mae’r ail adran ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg yn hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu’r iaith ac adnoddau defnyddiol. Mae’r drydedd adran wedi’i neilltuo i ddiwylliant Cymru. Mae’n cynnwys llu o adnoddau sy’n ymwneud â gwahanol agweddau ar ddiwylliant unigryw Cymru. Y gobaith yw ychwanegu at y tudalennau hyn yn y dyfodol wrth i adnoddau a gwasanaethau gael eu creu.
Gan siarad ar ran y coleg, dywedodd Jonathan Morgan, Is-Bennaeth/Prif Swyddog Gweithredu Coleg y Cymoedd: Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o’r safon uchaf i’n myfyrwyr ac mae’r adnodd newydd hwn yn gyfle i ddangos i’n dysgwyr yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn ymwneud â’r Gymraeg. P’un a ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio – mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb.”
Dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg “Bellach mae dros 120 o sefydliadau yn gweithredu safonau’r Gymraeg, sy’n golygu fod gan y cyhoedd hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw. Rydym yn falch fod sefydliadau megis Cymraeg wedi manteisio ar y cyfle heddiw i hyrwyddo’r hawliau ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg. Gadewch i ni, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, wneud y mwyaf o’r hawliau hyn a dewis y Gymraeg.”
I gyrchu’r tudalennau ‘Cymraeg yn y Coleg’ cliciwch yma.
Am restr lawn, ac union fanylion yr hawliau sydd gan bobl I ddefnyddio’r Gymraeg, ewch i – comisiynyddygymraeg.cymru/maegenihawl
“