Cymru’n galw tri dysgwr o’r Cymoedd

Mae tri o ddysgwyr Coleg y Cymoedd yn dathlu ar ôl derbyn y newyddion eu bod wedi cael eu dewis i ymuno â Sgwad Pêl-droed Cymru i gynrychioli Cymru yng Nghwpan Cyprus.

Mae Ellie Lake o Aberdâr 18 oed wedi cael ei dewis i fod yn y Sgwad ar ôl i’w pherfformiadau greu argraff ar brif hyfforddwr Tîm Cenedlaethol y Merched Jayne Ludlow, tra’r oedd yn cynrychioli’r Tîm dan 16, dan 17 a dan 19 yn ystod yr ymgyrchoedd cymhwyso. Roedd Ellie yn rhan annatod o ymgyrch cymhwyso’r tim dan 19 eleni; lle roedd Cymru’n gymwys ar gyfer y rownd Elît am y tro cyntaf mewn 8 mlynedd.

Dywedodd Ellie, sydd wrthi’n astudio ar gwrs BTEC Chwaraeon yng nghampws Ystrad Mynach gyda Amina ac Alice, Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwi’n rhan o’r garfan, gwn fod y gystadleuaeth yn eithriadol o uchel, sy’n arwydd da fod tîm cryf yn  mynd i mewn i’r gystadleuaeth “.

Mae Amina Vine, 17 oed, hefyd wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru yn sgwad ymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd FIFA 2019. Nid yw’r dysgwr o Gil-y-Coed yn newydd i dîm Cymru gan ei bod wedi cynrychioli Cymru yn ymgyrchoedd cymhwyso dan 16, a dan 17.

Mae’n ymuno â’i chyfoedion, Alice Griffiths sy’n 17 oed ac yn gobeithio ychwanegu trydydd cap i’w chasgliad, ar ôl chwarae yn ymgyrch cymhwyso’r byd yn erbyn Kazakhstan a Bosnia Herzegovina, pan oedd hi ond yn 16 oed. Mae Alice hefyd wedi cynrychioli Cymru yn yr ymgyrchoedd cymhwyso Ewropeaidd dan 16, dan 17.

Wrth sôn am lwyddiant y chwaraewyr, dywedodd y tiwtor Claire O Sullivan, “Mae cynrychioli Cymru yn llwyddiant eithriadol i’r tri dysgwr, mae’n adlewyrchu eu sgiliau ac mae hefyd yn enghraifft dda o’r llwybr chwaraewyr a sefydlwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae pawb yng Ngholeg y Cymoedd yn falch o’r dysgwyr ac yn edrych ymlaen at wylio eu gyrfaoedd yn mynd o nerth i nerth. Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru a’r Coleg yn darparu addysg a hyfforddiant ond gwaith caled ac ymrwymiad y dysgwyr sy’n sicrhau eu llwyddiant. Bellach mae gan yr Academi 16 o ddysgwyr sydd wedi cynrychioli eu gwlad.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau