Cymru’n galw tri dysgwr o’r Cymoedd

Dathlodd Coleg y Cymoedd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau trwy gynnal nifer o ddigwyddiadau ar draws ei bedwar campws; gan gefnogi llawer o ddigwyddiadau Prentisiaethau allanol hefyd.

Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o Raglenni Prentisiaeth gan gynnwys Gofal Plant, Adeiladu, Peirianneg a Rheilffyrdd; a chaiff cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru am ei ddarpariaeth o ansawdd a’i ganlyniadau, yn benodol mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu. Cydnabyddir y Coleg hefyd am ei ymatebolrwydd i anghenion y farchnad lafur leol.

Yn dilyn gweithgareddau llwyddiannus y llynedd, am yr eildro gwahoddwyd cyflogwyr o bob rhan o Gaerffili, Rhondda Cynon Taf a’r ardaloedd cyfagos i ymuno mewn cyflwyniadau, sesiynau rhannu gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio. Manteisiodd y cyflogwyr ar y cyfle hefyd i hyrwyddo eu cynlluniau prentisiaeth ac unrhyw gyfleoedd cyflogaeth yn eu sefydliadau i’r cannoedd o ddysgwyr ar draws y pedwar campws.

Digwyddiad newydd yn nathliadau Wythnos Brentisiaethau’r Coleg eleni oedd y Digwyddiad Prentisiaethau Menywod a gynhaliwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Roedd hyn yn llwyddiant mawr gyda siaradwyr o ystod o gefndiroedd yn rhoi cyflwyniadau ysbrydoledig.

Croesawodd y Dirprwy Bennaeth Karen Phillips y gwesteion a rhoes trosolwg o’i phrofiad ei hun o hyfforddeiaethau yn ei swydd gyntaf gyda’r Awdurdod Lleol.

Gadawodd y siaradwr gwadd, Karen Green, swydd yn y diwydiant Arlwyo er mwyn gweithio i Melin Homes fel Swyddog Datblygu Cymunedol. Ei neges yn y digwyddiad oedd ‘Mae yna lawer o lwybrau i fenywod yn y diwydiant adeiladu – Cymerwch bob cyfle!’ Pwysleisiodd Karen pa mor bwysig yw cyngor gyrfaoedd wrth ddewis gyrfa a dywedodd fod Melin Homes ar hyn o bryd yn gweithio ar brosiect Ysgolion i newid meddylfryd pobl.

Y prentis Hannah Colston oedd y siaradwr nesaf yn y digwyddiad. Rhannodd ei phrofiadau o fod yn brentis ymhlith menywod mewn sector llawn dynion. Pan adawodd Hannah yr ysgol nid oedd yn teimlo’n barod i fynd i’r brifysgol a phenderfynodd gofrestru ar brentisiaeth yn y coleg. Roedd yn brofiad a newidiodd ei bywyd, gan roi hwb i’w hyder wrth ddysgu ac ennill cyflog.

Mae wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys Prentisiaeth y Flwyddyn Ewrop ac mae bellach wedi ei gyflogi fel QS dan hyfforddiant yn Trojan Construction ac mae’n dilyn cwrs gradd ym Mhrifysgol De Cymru.

Yn dilyn Hannah, rhoes Dawn Evans, Cyfarwyddwyr Rheoli Ajuda Training Services, gyflwyniad personol yn sôn am ei llwybr i gyflogaeth a sefydlu ei busnes. Yn yr ysgol roedd hi’n well am wneud chwaraeon na phynciau academaidd, a’r wybodaeth a ddysgodd yn yr hyfforddiant galwedigaethol a’i sbardunodd i sefydlu ei chwmni hyfforddi ei hun. Nawr mae Dawn wedi prynu canolfan hyfforddi yng Nghaerdydd ac mae wedi cwblhau tair gradd, mewn Addysg, Arweinyddiaeth Gynaliadwy ac Entrepreneuriaeth i Fenywod. Ei chyngor yw ‘Magwch hyder, angerdd a chredwch ynoch chi eich hun’

Menyw busnes llwyddiannus – Tracy Smolinsky, oedd y siaradwr olaf. Rhannodd Tracy y ffaith nad oedd yn academaidd ond cwblhaodd ei cymwysterau TGAU. Cafodd swydd weinyddu mewn  TÅ· Cyllid ond dysgodd yn gyflym nad oedd y swydd honno’n addas ar ei chyfer. Aeth i weithio i’r Western Mail yn gwerthu hysbysebion. Yn 2007, bu’n bresennol yn ei digwyddiad Rhwydweithio cyntaf gyda’r sefydliad a syrthiodd mewn cariad â rhwydweithio. Yn 2008, ynghyd â buddsoddwr, sefydlodd ei gwmni Intro Biz; y mae hi ar hyn o bryd yn rhedeg gyda’i phartner.

Wrth ystyried gweithgareddau’r wythnos, dywedodd Matt Tucker, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Busnes Mae’r Wythnos Brentisiaethau yn ddyddiad allweddol yn ein calendr, mae’n amser pwysig inni godi proffil ein Prentisiaethau a’n cyrsiau cysylltiedig, ymgysylltu â chyflogwyr a hyrwyddo manteision a chyfleoedd y rhaglenni. Bob blwyddyn rydym yn ceisio ehangu gweithgareddau’r wythnos, ac eleni fe wnaethom gynnwys Digwyddiad y Menywod ar Fawrth 8fed, i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gefnogodd ein digwyddiadau ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw gydol y flwyddyn. Mae cynllunio ar gyfer Wythnos Brentisiaeth y flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill!”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau