Cyn-chwaraewr rygbi ac entrepreneur coffi ffa-ntastig yn agor caffi yn y Rhondda

Mae chwaraewr rygbi Caerdydd wedi cyfnewid y sgarmes am macchiato i ddathlu agoriad caffi newydd yn ei gyn-goleg.

Mae Dillon Lewis yn aelod o d’m rygbi Caerdydd ac yn gydberchennog siop goffi arbenigol Fat Dragon Coffee (gyda Brad Thyer sydd hefyd yn aelod o d’m rygbi Caerdydd) sy’n cyflenwi ffa coffi a gwaddodion coffi i gaffi newydd sbon o’r enw Caffi Blodyn Haul ar Gampws y Rhondda Coleg y Cymoedd.

Roedd y chwaraewr, a anwyd ym Mhentre’r Eglwys, yn aelod o Academi Gleision Caerdydd yng Ngholeg y Cymoedd rhwng 2012 a 2014 wrth iddo astudio yn y coleg, ac ers hynny mae’r prop wedi dod yn aelod rheolaidd o garfan Caerdydd a Chymru.

Ddydd Mercher, dychwelodd Dillon i’w hen goleg i ddangos ei gefnogaeth i gymuned staff a dysgwyr Coleg y Cymoedd er mwyn agor y siop goffi newydd sbon Sgiliau Byw Annibynnol (ILS).

Meddai Dillon: “Mae dychwelyd i’m hen goleg i fod yn rhan o sefydlu siop goffi newydd yn brofiad gwerth chweil.

Mae gan fy chwaer anghenion dysgu ychwanegol ac rwy’n gwybod o lygad y ffynnon yr heriau y mae dysgwyr fel hi’n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Mae cyfrannu at greu amgylchedd dysgu yng Ngholeg y Cymoedd lle gall dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ddatblygu eu sgiliau a magu hyder yn achos sy’n agos iawn at fy nghalon”.

Yn ymroddedig i wella darpariaethau dysgu ar gyfer dysgwyr galwedigaethol, bydd y caffi yn golygu y bydd dysgwyr ar draws y campws yn rhan o’r gwaith o redeg y siop. Byddant yn gweini diodydd ac yn gwerthu nwyddau wedi’u gwneud a’u pobi’n ffres gan aelodau o gwrs arlwyo Coleg y Cymoedd bob dydd o’r wythnos rhwng 10am a 2pm.

Mewn ymdrech gydweithredol gyda Llywodraeth Cymru a Cholegau Cymru i ail-lunio’r cwricwlwm ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, mae’r gofod newydd yn rhan o nod ehangach y coleg i gynnig profiad dysgu mwy ymarferol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith a byw’n annibynnol.

Dywedodd Al Lewis, Pennaeth yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Dillon yn enghraifft wych o ddysgwr sydd wedi mynd ymlaen i gyflawni cymaint ar ôl gadael y coleg. Mae Dillon wedi bod yn un o gefnogwyr parhaus y coleg ac mae bob amser wedi parhau i fod yn ffigwr amlwg yn ein cymuned.

Rydym yn llawn cyffro o gael Dillon yn cefnogi’r caffi newydd a’n hymdrechion ehangach i wella profiadau dysgu yn y coleg i ddysgwyr cyfredol a dysgwyr y dyfodol. Ni allwn aros i groesawu dysgwyr a staff ar draws y coleg yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd i’r caffi newydd”.

 

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau