Cyn-ddysgwraig yn dal ei gafael ar deitl ym Nghampau Byd Athletau IPC

Mae un o gyn ddysgwyr Coleg y Cymoedd â’i bryd ar ennill aur yn y Gemau Paralympaidd ar ôl ennill cystadleuaeth y waywffon F46 unwaith eto ym Mhencampwriaeth Byd Athletau IPC yn Doha.

Mae Hollie Arnold sy’n un ar hugain oed ac yn byw ac yn hyfforddi yng Nghaerdydd yn gyn ddysgwraig ar gampws Ystrad Mynach o Goleg y Cymoedd lle bu’n astudio Datblygiad Chwaraeon.

Symudodd Hollie a’i theulu i Dde Cymru i’w galluogi i gael hyfforddiant a manteisio ar y cyfleoedd datblygu chwaraeon uchel eu safon sydd ar gael yng Nghymru.

Dangosodd Hollie ddiddordeb yn y waywffon pan oedd yn ddeg oed ar ôl gweld ei brawd yn taflu. A hithau’n benderfynol o roi cynnig gwneud yr un peth, cododd y waywffon a darganfod bod ganddi dalent yn y gamp; hi oedd yr athletwr ifanca yng nghampau maes a thrac erioed pan fu’n cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Beijing yn 2008 pan oedd ond 14 oedd.

Mae ei sgiliau a’i hagwedd benderfynol, yn ogystal â chymorth a chefnogaeth ei theulu, wedi golygu ei bod wedi ennill amrediad nodedig o wobrau; gan gynnwys y ddisgen a thaflu’r siot.

Llwyddodd Hollie i osod Record y Bencampwriaeth o 40.53 metr a’i gorau hyd yn hyn yn y pencampwriaethau yn Qatar a nawr mae’n canlbwyntio ar fedal aur yn y Gemau Paralympaidd. Katarzyna Piekart o Wlad Pŵylo sy’n dal Record y Byd yn y waywffon F46 ar hyn o bryd; taflodd 41.15m yn Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Dywedodd Hollie, “Roedd y profiad o fod yn rhan o Dîm GB yn wych, dw i mor falch i fod yn rhan ohono. Don i erioed wedi bod mor ffit yn fy mywyd ac wrth fy modd i ddal gafael yn fy nheitl; roedd llawer o bwysau arna i, a finnau’r olaf i daflu.

Fy sialens nesaf ydy ennill Aur yn y Gemau Paralympaidd. Dydw i erioed wedi ennill medal bwysig yn y gemau Paralympaidd ond dyna beth dw i’n anelu ato. Dyma fy nod ac ar hwn dwi’n canlbwyntio – byddwch yn barod Rio, dwi ar y ffordd!”

Roedd staff y coleg wrth eu bodd gyda newyddion Hollie; roedden nhw’n gwybod y byddai personoliaeth ac ymrwymiad Hollie yn mynd â’r athletwraig ifanc dalentog hon ymhell.

Ar Tachwedd 17, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau