Cyn-ddysgwyr Coleg y Cymoedd yn serennu ar raglen deledu boblogaidd yn ymwneud â phobi wrth i gyfresi newydd gychwyn

Mae dau o gyn-ddysgwyr arlwyo Coleg y Cymoedd yn ymddangos ar raglen deledu boblogaidd yn ymwneud â phobi. Byddant yn cystadlu yn erbyn rhai o bobyddion proffesiynol gorau’r diwydiant er mwyn ceisio cipio’r goron ar gyfer y tîm patisserie gorau yn y DU.

Mae Michael Coggan ac Andrew Minto, sydd ill dau yn gweithio fel cogyddion crwst i Gin a Bake ym Mae Caerdydd, yn gystadleuwyr yn y gyfres newydd o Bake Off: The Professionals ar Channel 4.

Yn y sioe, a gyflwynir gan y digrifwr Tom Allen a chyn-gystadleuydd Bake Off, Liam Charles, bydd y pâr yn cystadlu yn erbyn 11 tîm arall o bobyddion proffesiynol o fwytai; gwestai; a busnesau bach ledled y wlad er mwyn ceisio ennill y teitl arobryn.

Byddant yn cymryd rhan mewn ystod o heriau a feirniadir gan Benoit Blin, Prif Gogydd Crwst Belmond Le Manoir aux Quat Saisons, a Cherish Finden, Cogydd Crwst Gweithredol The Langham yn Llundain.

Nid dyma’r tro cyntaf i gapten y tîm, Michael, gystadlu yn y sioe ar ôl methu â chyrraedd y chwech olaf yn 2018. Fodd bynnag, mae bellach yn gobeithio hawlio’r goron gydag Andrew y tro hwn.

Mae gan y ddau gogydd CV trawiadol ar ôl astudio yng Ngholeg y Cymoedd. Ar ôl astudio Coginio Proffesiynol ar gampws Ystrad Mynach y coleg, sicrhaodd Michael ei rôl broffesiynol gyntaf yn The Hilton yng Nghaerdydd, yn dilyn lleoliad gwaith gyda’r coleg yn y gadwyn o westai. Yna aeth ymlaen i weithio mewn cyfres o sefydliadau pum seren, gan gynnwys The Gleneagles Hotel yn yr Alban a St David’s yng Nghaerdydd, cyn ymuno â Gin a Bake, lle mae bellach yn bennaeth ar y tîm crwst a datblygu ryseitiau.

Yn yr un modd, bu Andrew, a gwblhaodd gymhwyster Coginio Proffesiynol Lefel 2 VRQ yn y coleg, yn gweithio mewn nifer o sefydliadau yng Nghymru gan gynnwys The Celtic Manor; The Newbridge on Usk a Lanelay Hall Hotel yn Nhonysguboriau cyn ymuno â Michael yn Gin a Bake.

Y llynedd, ymwelodd Michael ̢ dysgwyr coginio Coleg y Cymoedd i roi dosbarth meistr coginio unigryw iddynt ac i ateb unrhyw gwestiynau am weithio yn y sector. Yn ystod ei ymweliad, dysgodd ddysgwyr y cwrs Patisserie Lefel 3 sut i feistroli sgiliau hanfodol wrth greu pwdinau, fel tymheru siocled a chreu garneisiau. Hefyd rhoes gipolwg iddynt ar fyd entremets Рseigiau Ffrengig melys a weinir yn draddodiadol rhwng cyrsiau sawrus Рa dangosodd sut i greu addurnau siocled i arddangos y creadigaethau cain hyn.

Mae’r cogydd talentog yn gobeithio dychwelyd i’r campws eto yn y dyfodol i barhau i rannu ei sgiliau a’i arbenigedd gyda’r genhedlaeth o bobyddion proffesiynol.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau