Bu cyn ddysgwr ym maes chwaraeon o Goleg y Cymoedd yn dathlu cychwyn ei brentisiaeth newydd ag Undeb Rygbi Cymru yng nghwmni’r Tywysog William.
Cyfarfu Connor Prankard, oedd wedi cwblhau ei gymwysterau Lefel 2 a 3 Chwaraeon ar gampws Ystrad Mynach, gyda’r Tywysog William yn ystod lansiad rhaglen brentisiaieth Hyfforddi Craidd Undeb Rygbi Cymru.
Roedd y Tywysog William yn ymweld â Chaerdydd i lansio rhaglen brentisiaieth Hyfforddi Craidd Undeb Rygbi Cymru – ac i wylio gêm Cymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan Rygbi’r Byd.
Cyfarfu Dug Caergrawnt â’r 12 prentis newydd a bu’n gwylio hyfforddi rygbi yn Chwaraeon Cymru, cyn troi am Stadiwm y Mileniwm. Bu’r Tywysog yn siarad â’r prentisiaid ac yn ymuno yn yr hyfforddiant.
Cafodd Hyfforddi Craidd (Coach Core) ei gychwyn yn 2012 fel rhan o Waddol y Gemau Olympaidd a’i nod ydy gwella ansawdd ac argaeledd hyfforddiant chwaraeon.
Yn ôl Connor, sy’n 19 oed: Roedden i’n ei holi pa ochr oedd e’n ei gefnogi yn y gêm rhwng Lloegr a Chymru ac fe ddwedodd ei fod yn cefnogi Cymru. Ond pan wnaethon ni ofyn iddo pwy oedd ei frawd yn gefnogi, ei ateb oedd dylen ni ofyn hynny i Harry, ond fe soniodd fod yna gystadleuaeth rhwng y ddau.”
I ganfod rhagor, ewch ar: http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-south-east-wales-34414248
“