Yn ddiweddar cafodd Cyfarwyddwr Safon Uwch, Ian Rees, y pleser o ddal i fyny gyda chyn-fyfyriwr Canolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd, Calum Haggett, yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, lle cawsant fwynhau te prynwn yn Yr Ystafell Gyffredin Hŷn fawreddog.
Cwblhaodd Calum, sy’n dod yn wreiddiol o’r Rhondda, radd mewn Gwyddorau Biofeddygol yng Ngholeg Imperial Llundain, cyn ennill lle fel myfyriwr ôl-raddedig yn y Coleg mawreddog yn Rhydychen i astudio Meddygaeth Glinigol. Mae Callum bellach ar ei ffordd i gymhwyso fel meddyg.
Mae Calum wedi cadw cysylltiad rheolaidd â’r Coleg. Mewn partneriaeth â staff y Ganolfan Safon Uwch, mae’n parhau i gynnig cymorth, cyngor ac arweiniad i ddysgwyr presennol Coleg y Cymoedd ar y rhaglen Ymestyn a Herio sy’n gwneud cais am raddau STEM yn Rhydychen neu Gaergrawnt. Yn benodol, mae Callum wedi cynnal cyfres o diwtorialau ar-lein i helpu i baratoi dysgwyr Coleg y Cymoedd ar gyfer y profion derbyn heriol y mae ymgeiswyr Rhydychen yn eu sefyll.
Wrth siarad am ei gefnogaeth i ddysgwyr Coleg y Cymoedd, dywedodd Calum: “Roedd astudio Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd yn brofiad dysgu gwych imi, gan ddarparu sylfaen wych ar gyfer y llwybr academaidd rwyf wedi ei ddilyn ers hynny. Roedd staff y Ganolfan Safon Uwch yn hynod gefnogol i mi’n bersonol, ac felly mae’n dda i mi nawr fod mewn sefyllfa i roi rhywbeth yn ôl i’r Coleg drwy gynnig cefnogaeth i rai o’r dysgwyr MAT (Mwy Abl a Thalentog) presennol gyda’u ceisiadau.”
Wrth ddiolch i Calum am ei gefnogaeth barhaus i’r Ganolfan Safon Uwch, dywedodd Ian: “Roedd Calum yn fyfyriwr eithriadol yn ystod ei amser yng Ngholeg y Cymoedd, ac mae’n wych i ddysgwyr Safon Uwch presennol allu elwa o’i brofiad a’i arbenigedd sylweddol. Hoffai pawb yn y Ganolfan Safon Uwch ddymuno pob llwyddiant i Calum gyda’i astudiaethau presennol ac yn ei yrfa yn y dyfodol.”