Enillodd un o gyn-ddysgwyr Coleg y Cymoedd, Thomas Matthews, fedal Efydd yn ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo, yn y gystadleuaeth Tenis Bwrdd i Ddynion (Sengl) (Dosbarth 1).
Astudiodd Tom (29 oed) o Gwmbach, Aberdâr ar gampws Ystrad Mynach, lle cwblhaodd ei flwyddyn gyntaf mewn Gwaith Saer. Ar y pryd roedd Tom yn feiciwr brwd, gyda dyfodol cyffrous mewn beicio mynydd o’i flaen, ond cafodd ddamwain wrth feicio a adawodd ef yn gaeth i gadair olwyn.
Wrth gael triniaeth yn Ysbyty Rookwood, cafodd ei annog i roi cynnig ar denis bwrdd – a dyna ni! Mae gan Tom restr anhygoel o fuddugoliaethau llwyddiannus i’w enw. Cynrychiolodd Prydain Fawr mewn pencampwriaethau pwysig ac yn 2017 symudodd o Sgwad Llwybr Prydain Fawr i Sgwad Perfformiad Prydain Fawr.
Wrth siarad ar ei lwyddiant yng Ngemau Tokyo dywedodd Tom “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel. Rydw i mor falch fy mod i wedi bod yn rhan o Dîm Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd”.