Mae’r cyn-fyfyriwr o Goleg y Cymoedd, Micaela Panes, 25 oed, yn wreiddiol o Bontypridd ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn myfyrio ar bwysigrwydd addysg bellach i gyflawni ei huchelgais o ran gyrfa.
Gadawodd Micaela yr ysgol i astudio Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd gan ei bod yn teimlo y byddai’r coleg yn cynnig dechrau newydd a chyfle i gwrdd â phobl newydd ac yn rhoi mwy o annibyniaeth iddi.
Dewisodd astudio Hanes, y Gyfraith, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Seicoleg a Chymhwyster Bagloriaeth Cymru, oherwydd er ei bod yn ansicr beth fyddai’n ei astudio yn y brifysgol, teimlai y byddai’r pynciau yma’n ddewis cadarn ar gyfer y rhan fwyaf o ofynion prifysgol.
Ers gadael Coleg y Cymoedd yn 2015, mae Micaela wedi bod yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi ennill gradd B.A. 2:1. Gradd Hanes yn 2018 ac MA gyda Rhagoriaeth yn 2019. Y llynedd, aeth yn ôl i Brifysgol Caerdydd i ddechrau ei PhD mewn Hanes a Hanes Cymru. Mae Micaela ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddulliau ymgyrchu llafur menywod dosbarth gweithiol yn Ne Cymru a De Orllewin Lloegr, tua 1928-69. Ar ôl gorffen ei PhD mae’n gobeithio parhau i weithio ym myd ymchwil ac academia.
Wrth siarad am ei hastudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, dywedodd Micaela: “Roedd y pynciau Safon Uwch y gwnes i eu dewis yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i fi a helpodd hynny fi yn fy ngwaith a gyda fy astudiaethau. Dw i’n meddwl bod astudio wir wedi fy helpu i fagu hyder, yn gymdeithasol ac yn fy ngwaith. Dw i’n mwynhau astudio, a heb addysg bellach ac addysg uwch fydden i ddim wedi gallu cyflawni fy uchelgais o ran gyrfa.
Mae’r gefnogaeth a’r anogaeth gan y tiwtoriaid yng Ngholeg y Cymoedd heb ei hail, ac aeth pob tiwtor y tu hwnt i’r disgwyl, yn enwedig wrth fy mharatoi ar gyfer y brifysgol.
Yn ogystal, ces i lawer o gyfleoedd wrth astudio, a dw i ddim yn meddwl bydden i wedi’u cael nhw pe bawn i wedi aros yn yr ysgol. Bues i’n cymryd rhan yn Trading Places, ces i brofiad gwaith yn Eversheds (cwmni cyfreithiol), es i i ysgol haf yng Ngholeg Prifysgol Llundain, ac ymweld â chanolfan gasgliadau/archif Nantgarw. Helpodd yr amrywiaeth o gyfleoedd a chyrsiau fi i benderfynu beth ro’n i am ei wneud a’i gyflawni yn y dyfodol. Yn seiliedig ar fy mhrofiadau dw i bob amser wedi argymell Coleg y Cymoedd i fy nheulu a ffrindiau.
Wrth sôn am lwyddiant Micaela ers gadael Coleg y Cymoedd, dywedodd Chris Griffiths, Tiwtor Cyrsiau Safon Uwch: “Mae bob amser yn destun balchder a gostyngeiddrwydd i weld eich dysgwyr yn rhagori arnoch chi. Roedd Micaela yn un o’r myfyrwyr mwyaf ymroddedig dw i wedi’u dysgu, a dylai ei hesiampl hi ysbrydoli eraill i wireddu eu potensial a dod yn arbenigwyr credadwy yn eu maes. Mae ei llwyddiant yn dyst i’r hyn mae rhywun yn gallu ei gyflawni gyda’r agwedd gywir, yr etheg gwaith gywir, a’r gefnogaeth gywir.”