Roedd Cyfarwyddwr Safon Uwch Coleg y Cymoedd, Ian Rees, yn falch iawn o ddal i fyny yn ddiweddar gyda chyn-fyfyriwr Canolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd, Andrew Williams, ymhlith meindyrau crand Rhydychen!
Astudiodd Andrew, sy’n dod yn wreiddiol o Ynyshir yn y Rhondda, Safon Uwch mewn Mathemateg, Mathemateg Bellach, Ffiseg a Chemeg yng Ngholeg y Cymoedd, gan ennill y graddau arbennig (3 A* ac 1 A), cyn mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg yng Ngholeg St Hilda, Rhydychen.
Ers hynny mae Andrew wedi cychwyn ar PhD (DPhil) ym Mhrifysgol Rhydychen. Yn ei DPhil, mae Andrew yn astudio sut mae cymylau yn ymateb i newid hinsawdd, ac yna sut mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y tywydd fel glawio eithafol. Mae Andrew yn ei drydedd flwyddyn o’r cwrs pedair blynedd. Ar ôl iddo ennill ei PhD, mae’n gobeithio parhau i weithio yn y byd academaidd drwy wneud cais am Gymrodoriaeth yn y DU neu yn America.
Mae Andrew wedi cynnal cysylltiadau rheolaidd â De Cymru, yn enwedig gyda Hwb Seren, a gynhelir gan Goleg y Cymoedd, sy’n cefnogi dysgwyr Safon Uwch Mwy Abl a Thalentog ledled Rhondda Cynon Taf a Merthyr i wneud cais i Gaergrawnt, Rhydychen a phrifysgolion Grŵp Russell blaenllaw eraill.
Mae Andrew yn parhau i helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer y prawf derbyn Ffiseg heriol a sefir gan ymgeiswyr i Rydychen ac yn ystod eu cyfarfod dywedodd “Roedd fy amser yn astudio Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd yn ffurfiannol imi a rhoes y sgiliau yr oedd eu hangen arnaf i lwyddo yn Rhydychen. Rwyf am barhau i wneud beth bynnag a allaf i gefnogi dysgwyr eraill o gymunedau’r Cymoedd i anelu’n uchel a chyflawni eu nodau.”
Mae Ian a’r tîm staff Safon Uwch yng Ngholeg y Cymoedd yn hynod falch o lwyddiannau academaidd eithriadol Andrew a hoffent ddymuno’r gorau i Andrew gyda’i astudiaethau parhaus a’i lwybr gyrfa yn y dyfodol. Hefyd, rydym yn gobeithio y bydd ei gyflawniadau yn ysbrydoli dysgwyr STEM presennol yn y Ganolfan Safon Uwch i anelu at ddilyn yn ôl troed Andrew!