Cyn-fyfyriwr Trin Gwallt Coleg y Cymoedd yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr arobryn y DU

I Ross Davies, y perchennog salon 26 oed o Lantrisant, roedd ‘staff proffesiynol a chyfleusterau rhagorol’ yn elfennau hanfodol ar gyfer llwybr llwyddiannus. Bellach, mae Ross wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwallt a Harddwch y DU 2022 a gynhelir ym mis Mawrth.

Pan adawodd Ross yr ysgol, cofrestrodd ar gwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg y Cymoedd ond buan y sylweddolodd mai ei wir angerdd oedd trin gwallt. Newidiodd ei lwybr gyrfa a chofrestru ar gwrs Barbro ar gampws Nantgarw. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn roedd Ross am ehangu ei orwelion ym maes trin gwallt ac fe addasodd yn gyflym i weithio gyda gwallt merched.

Talod y penderfyniad i newid cyfeiriad ar ei ganfed. Trefnodd y coleg leoliad gwaith i Ross mewn salon lleol lle aeth ymlaen i ddilyn cwrs Dysgu Seiliedig ar Waith i gwblhau ei gymhwyster Trin Gwallt Lefel 2. Rhoes hyn y cyfle i Ross gael y cyfuniad gorau o safonau go iawn y diwydiant a chefnogaeth y coleg, lle cwblhaodd y gwaith theori a’r arholiadau.

Ar ôl iddo gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 yn llwyddiannus ar gampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd, cofrestrodd ar y cymhwyster Trin Gwallt Lefel 3 ac nid yw wedi edrych yn ôl. Gyda’i gymhwyster Lefel 3 a’r profiad o weithio mewn salon, penderfynodd agor ei salon ei hun.

Wrth sôn am ei lwyddiant dywedodd Ross “Pan ymwelais â Choleg y Cymoedd, roedd yn amlwg o’r dechrau y byddai’r coleg yn gallu darparu’r profiad yr oeddwn ei angen, gan fod yr ystod o offer oedd ar gael yn rhagorol; roedd fel gweithio mewn salon proffesiynol. Byddaf yn ddiolchgar am byth fy mod wedi cael tiwtor cwrs mor wych a’m helpodd i fagu hyder yn y meysydd yr oeddwn eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y sector.

Hyd yn oed drwy’r pandemig pan nad oeddem yn gallu mynychu’r campws, trefnodd y coleg inni gyrchu cyfres o gyrsiau ar safle hyfforddi L’Oréal.

Ym mis Mai 2021, penderfynais symud i leoliad hollol newydd a sefydu salon Ross Alexander Hair yn Nhonypandy. Rwy’n falch o ddweud iddo fod yn benderfyniad da. Mae’r busnes yn parhau i dyfu ac rwy’n falch iawn o gael fy chwaer yn gweithio ochr yn ochr â mi, yn darparu gwasanaeth coluro yn y salon.

Ym mis Rhagfyr, cefais radd 5 seren gan ‘The Good Salon Guide’ a gydnabuodd ein bod yn dapraru’r ‘gwasanaeth gorau yn unig’ a ​​chefais wybod hefyd fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Gwallt a Harddwch y DU 2022 a gynhelir ym mis Mawrth 2022. Rydw i wedi fy synnu’n llwyr fy mod i wedi ennill lle yn y rownd derfynol o blith yr holl salonau yn y DU, ac wedi fy enwebu am ddwy wobr sef ‘Salon Newydd Gorau’r DU 2022’ a’r ‘Salon â’r Addurniadau Gorau yn y DU 2022’.”

Wrth longyfarch Ross, dywedodd y tiwtor Trin Gwallt, Joanne Harris, “Rwy’n falch iawn o glywed bod Ross eisoes wedi ennill gwobr am y gwasanaeth y mae’n ei gynnig yn ei salon newydd a’i fod hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Gwallt a Harddwch y DU 2022. Mae Ross wedi dangos dawn ac angerdd am drin gwallt erioed ac mae’n awyddus i ddysgu sgiliau newydd. O ystyried yr addurniadau o’r radd flaenaf yn ei salon a’r gwasanaeth proffesiynol y mae’n ei gynnig rwy’n siŵr y bydd yn gwneud yn dda yn y gwobrau. Rydym yn dymuno pob lwc iddo ar gyfer y gwobrau ac am lwyddiant y busnes yn y dyfodol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau