Cyn-fyfyrwraig y Cymoedd un cam yn nes at daith i Rwsia

Pan gwblhaodd Alys Evans o Gilfach Goch ei hastudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd, ni allai fod wedi breuddwydio am y dyfodol a oedd o’i blaen.

Ar ôl cwblhau ei TGAU cofrestrodd Alys ar gwrs VRQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a NVQ Lefel 3 mewn Patisserie, yng nghampws Nantgarw. Roedd ei hastudiaethau yn y Coleg yn cynnwys gweithio yn y ceginau hyfforddi a Bwyty Nant; a rhoes iddi brofiad o heriau’r sector ynghyd â’r cyfle i elwa ar brofiad uniongyrchol tiwtoriaid medrus.

Drwy gydol ei hamser yn y Coleg, cystadlodd Alys mewn nifer o gystadlaethau Skills, gan ennill nifer o wobrau. Yn ei blwyddyn academaidd olaf enwebodd ei thiwtoriaid hi am y Gwobrau VQ mawreddog ac enillodd y wobr gyffredinol ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn – Canolradd.

Mae ennill y wobr wedi agor drysau i nifer o gyfleoedd cyffrous i’r cogydd ifanc talentog, gwahoddwyd hi i fod yn rhan o Dîm Cymdeithas Coginio Cymru ac yn ddiweddar ymunodd â’r Vale Resort fel cogydd pastai llawn amser a fydd o fantais iddi mewn cystadlaethau yn y dyfodol.

Yn y rownd derfynol ddiweddar World Skills UK, creodd Alys, sy’n 19 oed, argraff ar y beirniaid gyda’i phwdinau hyfryd, gan gynnwys sbwng mêl gyda banana wedi’i garameleiddio, Mousse ffa tonca siocled a chrymbl aeron â rhosmari anglaise; a sicrhaodd le yn Nhîm Coginio’r DU, ynghyd â dau fyfyriwr o Loegr.

Dywedodd Alys Doeddwn i ddim yn credu’r peth pan ges wybod fy mod wedi bod yn llwyddiannus. Mae’n anhygoel bod yn un o ddim ond tri o bob rhan o’r DU i fynd ymlaen i’r cam nesaf, gyda’r heriau mor galed a’r safon mor uchel.

Fel aelod o garfan WorldSkills UK, byddaf hefyd yn mynychu hyfforddiant arbenigol mewn gwaith siwgr a siocled yn Llundain a Hull, yn ddiweddarach eleni “.

Wrth weithio yn y Vale, gallaf gynhyrchu dros 100 o bwdinau’r dydd, gan gynnwys haenau moethus o gacennau ar gyfer te prynhawn a rhaid i bob un fod o’r ansawdd uchaf – pa hyfforddiant gwell!

Pan nad wyf yn gweithio, byddaf yn ymarfer yng Ngholeg y Cymoedd, yn mentora cogyddion iau wrth iddynt baratoi ar gyfer Cystadleuaeth Sgiliau nesaf Cymru.

Mae ennill y wobr VQ wedi rhoi llawer o hyder imi ac wedi gwneud imi gredu y gallaf wneud unrhyw beth yr wyf am ei wneud. Mae cymaint yr wyf am ei wneud a’i gyflawni yn fy ngyrfa, fy uchelgais yw gweithio mewn bwyty seren Michelin “.

Yn ddiweddar, mynychodd Alys ginio enillwyr gwobrau ar HQS Wellington,  Arglawdd Victoria, Llundain lle derbyniodd ei Gwobr City & Guilds diweddaraf; Cyflwynwyd gan y Worshipful Company of Cooks. Dyfarnwyd y wobr hon i Alys i gydnabod ei llwyddiannau a’i gwobrau hyd yn hyn.

Wrth sôn am lwyddiant Alys, dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae Alys yn ferch ifanc hynod, sydd wedi cydbwyso rhedeg ei busnes ei hun ochr yn ochr â’i hastudiaethau, gyda chymorth prosiect Colegau Tafflab. Mae hi wedi profi dro ar ôl tro y gall gwaith caled, dyfalbarhad a meddylfryd positif fynd â chi i leoedd nad ydych erioed wedi breuddwydio amdanynt. Dymunaf y gorau i Alys yng ngham nesaf ei thaith, mae ganddi’r holl rinweddau cystadleuydd WordSkills anhygoel. “Mae World Skills yn fudiad rhyngwladol sy’n hyrwyddo’r budd a’r angen am weithwyr proffesiynol medrus, gan ddangos pa mor bwysig yw sgiliau, addysg a hyfforddiant ar gyfer ieuenctid, diwydiannau a chymdeithas. Mae’n herio gweithwyr proffesiynol ifanc ledled y byd fod ar y brig mewn sgil o’u dewis.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau