Cynllun Prentisiaeth yn fodd i ostwng ffigyrau diweithdra

Mae perthynas waith gref coleg addysg bellach sydd â thros 12,000 o ddysgwyr ar draws De Cymru gyda busnesau lleol yn y fodd i fynd i’r afael â lefelau uchel o ddiweithdra ym Mlaenau Gwent.

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gyflenwi rhaglen brentisiaeth Aspire, menter sy’n targedu trefi Blaenau Gwent – yr ail ardal uchaf ei lefel diweithdra yng Nghymru, ddwywaith cyfartaledd y DU – er mwyn hybu’r nifer sydd yn mynd ar brentisiaethau yn yr ardal.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, buddsoddwyd yn sylweddol mewn trefi fel Glyn Ebwy, megis gwneuthurwyr ceir TVR sy’n bwriadu agor adnodd newydd erbyn 2017, ond mae astudiaethau annibynnol gan UHOVI wedi canfod  bwlch sgiliau sylweddol yn y sector gweithgynhyrchu a pheirianneg yn yr ardal. Ynghyd ag atyniad Parth Menter Glyn Ebwy ar gyfer buddsoddwyr newydd, nod y rhaglen brentisiaeth y mae Coleg y Cymoedd yn brif ddarparwr ar ei chyfer, ydy llenwi’r swyddi sydd ar gael a chynhyrchu prentisiaid sydd wedi’u paratoi ar gyfer y gwaith.

Gyda diwedd y flwyddyn beilot ar fin dod i ben, mae’r rhaglen wedi lleoli 17 o brentisiaid mewn 11 o fusnesau yn yr ardal ar draws ystod o ddiwydiannau o wneuthurwyr cerbydau modur i beirianneg mecanyddol. Mae gan bob prentis gynllun hyfforddi penodol y cytunwyd arno gyda’r coleg i’w paratoi at waith.

Un o ddysgwyr Coleg y Cymoedd sy’n elwa o raglen Aspire ydy Declan Hughes, 17 oed o Ferthyr Tudful, sydd wedi’i gyflogi gan Continental Teves, un o’r cyflenwr offer cerbydau modur rhyngwladol mwyaf. Dywedodd Declan: “Mae fy mlwyddyn gyntaf fel prentis wedi bod yn brofiad gwerthfawr ac wedi rhoi llwyfan ardderchog i mi  ar gyfer y dyfodol.

“Mae cymaint o fanteision i ddysgu yn y gweithle ond i mi yn bersonol, mae wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu yn y gwaith a thu allan. Dw i wedi ennill mwy o wybodaeth a gallu ymarferol y gallaf eu defnyddio yn fy lleoliad gwaith ac yn fy mywyd personol. Bu’n flwyddyn gyntaf wych!”

Y gobaith ydy y bydd llwyddiant blwyddyn beilot Aspire yn annog rhagor o bobl ifanc fanteisio ar y cyfleoedd hyfforddiant ym Mlaenau Gwent ac yn y tymor hir gostwng y gyfradd diweithdra o 12.5% yn yr ardal sef tua 3,000 o bobl heb waith.

Gyda thros 50 o bobl ifanc yn gwneud cais am un o’r 20 lle yn ystod blwyddyn beilot Aspire, rhagwelir y bydd y 25 lle fydd ar gael yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf yn llenwi’n gyflym.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Mae’r ffigyrau diweithdra yn bryderus o uchel a hynny ar ein stepen drws. Ond gyda lefel y buddsoddiad sydd wedi dod i Dde Cymru yn ddiweddar, ynghyd â bwlch sylweddol yn y farchnad swyddi am unigolion medrus iawn, rydyn ni am sicrhau bod ein dysgwyr ar y blaen i lenwi unrhyw swyddi sy’n ymddangos.

“Rydyn ni’n ddiolchgar bod ein perthynas gyda gweithgynhyrchwyr lleol wedi caniatáu inni greu cyfleoedd i’n pobl ifanc ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw. Mae’r adborth gan fusnesau yn gysylltiedig ag Aspire wedi bod yn anhygoel o bositif, yn glod i’n dysgwyr.”

Dywedodd Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros yr Economi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: “Mae Rhaglen Gydgyfrannol Brentisiaeth Aspire yn gynllun gwych i helpu uwch-sgiliau, cynorthwyo a darparu cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl Blaenau Gwent. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n benodol ar y sector peirianneg a hi ydy’r rhaglen gyntaf yng Nghymru a Blaenau Gwent. Dwi’n hynod o falch bod rhaglen y llynedd wedi cychwyn yn dda.”

Mae recriwito ar gyfer rhaglen Medi 2016 eisoes wedi cychwyn a gellir cael rhagor o wybodaeth gan dîm Aspire ar: sap@blaenau-gwent.gov.uk

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau