Cynlluniau ar gyfer campws newydd ysblennydd Aberdâr gam yn nes

Bu grŵp o ddysgwyr y cwrs adeiladu yn ad-dalu cymwynas i’w cymuned drwy wirfoddoli i addurno ysgol leol.

Ymgymerodd 22 o ddysgwyr ar gwrs Diploma Paentio ac Addurno Campws Rhondda â phrosiect i baentio ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Gymunedol Sir Y Porth.

Nod y prosiect oedd gwella golwg esthetig yr ysgol i sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer dysgwyr yn Ysgol Sir Y Porth a darparu profiad gwaith realistig ar gyfer dysgwyr cwrs adeiladu Coleg y Cymoedd. Roedd y prosiect hefyd yn fodd i fodloni elfen cyfranogiad cymuned o fewn cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

Mae Ysgol Sir Y Porth mewn ardal ddifreintiedig iawn yn y Rhondda ac mewn dirfawr angen newid ei gwedd a hynny ar y gyllideb leiaf posibl. Roedd y staff oedd yn benderfynol o wella addurn rhannau o’r ysgol ac fe gafwyd y syniad unigryw, sef gofyn i’r coleg i fod yn bartner yn y fenter hon.

Paentiodd y grŵp o ddysgwyr adeiladu o ardal Rhondda Cynon Taf rannau o’r ysgol dros gyfnod o wythnos. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg oedd yn yr adran Fathemateg lle mae’r staff wedi sylwi bod y newid yn ysbrydoli’r disgyblion i ddysgu.

Dywedodd Bev Cheetham, Dirprwy Bennaeth Ysgol Sir Y Porth “Erbyn hyn mae gennym ddwy ystafell ddosbarth wedi’u harddu a’r addurno o safon uchel. Roedd dysgwyr Coleg y Cymoedd mor gwrtais, yn ymddwyn mor dda a pharchus ac yn wir gredyd i’r staff.

Soniodd holl staff yr Ysgol Y Porth pa mor aeddfed a diwyd oedd yr unigolion, yn gredyd i’r coleg. Cafodd hyn effaith fawr ar ysbryd ein staff a’n disgyblion.”

Dywedodd Kirah Keene, 17 oed o Aberdâr; “Roedd hwn yn syniad gwych ac enilles i brofiad ymarferol amhrisiadwy drwy ailaddurno mewn sefyllfa go wir a hefyd teimlo ein bod yn gwneud rhywbeth i helpu ysgol leol. Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r profiad.”

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd “Mae hwn yn brosiect gwych ar gyfer ein dysgwyr. Un enghraifft ydy’r fenter hon o’r gwasanaeth cymunedol rhagorol y gellir ei gyflawni drwy gydweithio. Roedd y dysgwr yn gredyd i broffesiynoldeb ein staff ac rydyn ni’n hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau