Cynnig gan Rydychen i fyfyriwr o’r Cymoedd

Mae dysgwr o’r Cymoedd newydd glywed ei fod wedi cael lle ym Mhrifysgol Rhydychen flwyddyn nesaf ar ôl cwblhau ei Lefel A yn ystod yr haf eleni. 

Mae Kristian Hallett, 18 oed o Ystrad Mynach, myfyriwr o Ysgol Gatholig Cardinal Newman, ac ar hyn o bryd yn astudio yng Nghanolfan Lefel A Nantgarw sy’n gweithredu mewn partneriaeth gydag Ysgol Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypridd.

Rhoddodd ei fryd ar fynd i’r brifysgol nodedig pan gafodd e a phedwar ffrind eu gwahodd i fynychu rhaglen ysgol haf Rhydychen llynedd.

Yn ystod yr wythnos honno cafodd Kristian y cyfle i brofi bywyd myfyrwyr yn Rhydychen gan dreulio ei amser yn mynychu darlithoedd, seminarau, gweithdai a bywyd cymdeithasol yn y brifysgol.   

Yn fuan ar ôl dychwelyd o’r ysgol haf cafodd Kristian wybod ei fod wedi rhagori yn ei arholiadaui Lefel UG gan sgorio 100 y cant yn ei arholiad Hanes. Dyna pryd penderfynodd wneud cais i Rydychen.    

Ar hyn o bryd, mae Kristian yn astudio seicoleg, hanes, a iaith a llenyddiaeth Saesneg yng Nghanolfan Lefel A Coleg y Cymoedd ar gampws Nantgarw.

Erbyn hyn mae Kristian wedi derbyn cynnig amodol i astudio Hanes yr Hen Fyd a Hanes Modern yng Ngholeg Regent’s Park, Rhydychen. Dywedodd Kristian: “Doeddwn i erioed wedi ystyried bod Rhydychen yn opsiwn nes i mi fynd i’r Chweched Dosbarth. Fe wnaeth fy nhiwtor bugeiliol fy annog i ystyried Rhydychen ac awgrymu y dylwn wneud cais am le ar ysgol haf y brifysgol. Roedd yn gyngor da oherwydd dangosodd yr wythnos honno ar y campws i mi y gallwn gyrraedd y nod. Teimlais fod Rhydychen yn berffaith i mi.

“Roedd yn dipyn o syndod i dderbyn y cynnig. Ron i’n gwybod bod rhai o’r ffrindiau a wnes yn ystod yr ysgol haf wedi derbyn eu cynigion eisoes ond doeddwn i ddim wedi derbyn unrhyw e-bost. Un diwrnod des adre ac roedd llythyr yn aros amdanai, roedd yn debyg i unrhyw lythyr arall tan i mi ei agor a darllen y newyddion da.”  

Bydd Kristian yn sefyll ei arholiadau Lefel A yr haf hwn, ond fel pob myfyriwr arall yn y DU, bydd rhaid iddo aros tan Awst 18 i gadarnhau ei le yn Rhydychen.

Dywedodd Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n hynod falch o Kristian. Mae sicrhau cynnig i fynychu Prifysgol Rhydychen yn golygu gwir ymroddiad a gwaith caled ac fe wnawn ni ei gynorthwyo’r holl ffordd. 

“Mae dysgwyr fel Kristian yn esiampl o’r talent sy’n bodoli yng Nghymoedd De Cymru. Ein cenhadaeth, fel coleg ydy sicrhau bod gan bob dysgwr yn ein dalgylch fynediad i’r addysg orau, y sgiliau a’r cyfleoedd hyffordiant gorau.”

Mae canolfan Lefel A Coleg y Cymoedd yn gweithredu mewn partneriaeth rhwng y Coleg, Ysgol Gatholig Cardinal Newman ym Mhontypridd a Choleg Catholig Dewi Sant yng Nghaerdydd, a thrwy hynny y ganolfan ydy’r darparwr pynciau Lefel A mwyaf yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili.

Dywedodd Justin O’Sullivan, Pennaeth Ysgol Gatholig Cardinal Newman: “Rydyn ni wrth ein bodd bod Krisitan wedi derbyn cynnig gan Rydychen. Mae’n fyfyriwr rhagorol ac eto’n ddiymhongar ac yn un sydd wedi dangos gwir botensial erioed ac mae’n gweithio’n galed i wireddu ei botensial. Mae’n haeddu ei ganlyniadau ardderchog a chynnig Rhydychen.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau