Cyrraedd y garreg filltir nesaf ar y campws £22 miliwn yn Aberdâr

Mae cam nesaf yr adeiladu wedi cael ei gwblhau ar safle coleg tra modern yn Aberdâr, sydd am chwyldroi addysg bellach a hyfforddiant sgiliau ar gyfer cannoedd o ddysgwyr yn Ne Cymru.

Dathlodd campws £22 miliwn Coleg y Cymoedd yng nghanol Aberdâr ei seremoni ‘gosod carreg gopa’ swyddogol, yn nodi’r pwynt lle mae holl strwythur y campws wedi’i adeiladu, cyn y ffitio terfynol y tu fewn i’r coleg.

 

Cyn yr agoriad swyddogol ym mis Medi 2017, bydd contractwyr yn gweithio i baratoi’r campws ar gyfer ystod estynedig o gyrsiau a fydd ar gael, gan gynnwys y celfyddydau creadigol a’r cyfryngau, cwricwlwm chwaraeon a chanolfan addysg uwch ar gyfer cyrsiau’n cynnig cymhwyster Lefel 4 neu’n uwch. Bydd y cyrsiau hyn i gyd ar gael yng Ngholeg y Cymoedd yn Aberdâr am y tro cyntaf.

Bydd y cwrs tecstilau a chlustogwaith poblogaidd yn parhau yn y campws newydd, a gynlluniwyd yn arbennig i gwrdd â gofynion swyddi cwmnïau yn yr ardal.

Ar y cyd â chyrsiau fel gwaith plymwr a gwaith trydanol, bydd campws Aberdâr hefyd yn cynnwys salon a thÅ· bwyta, sy’n cwrdd â safonau diwydiant ar gyfer dysgwyr ar gyrsiau trin gwallt a harddwch a rhaglen goginio proffesiynol. Bydd y salon a’r tÅ· bwyta ar agor i’r cyhoedd – gwasanaeth newydd i’r gymuned yn ogystal â dysgwyr.

Ymunodd Alun Davies AC â’r staff a’r dysgwyr i ddathlu’r garreg filltir bwysig yn adeiladu’r campws newydd drwy osod sment ar frig yr adeilad. Ar ddiwedd 2015, addawodd Llywodraeth Cymru ei chefnogaeth i’r prosiect drwy gyllido 50% o’r datblygiad, gan helpu gwneud campws Aberdâr yn realiti i Goleg y Cymoedd.

 

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Alun Davies, y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a’r Gymraeg: “Mae’r campws newydd hwn yn enghraifft o genhadaeth y Coleg i sicrhau y bydd rhagoriaeth mewn addysg a datblygu sgiliau yn realiti ar gyfer pob dysgwr yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Bydd yn newid wyneb addysg ôl-16 yng nghymoedd De Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod hi’n hanfodol i ddyfodol economi Cymru fod addysg yn cael ei darparu mewn cyfleusterau sy’n addas ar gyfer y dyfodol, sy’n amgylcheddol gyfrifol, ac sy’n fodern ac ar blaen yn dechnolegol.

 

“Bydd yr adeilad hwn yn amgylchedd gwych ar gyfer datblygu dysgwyr hyderus, brwdfrydig, a bydd yn annog y dysgwyr hynny i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen a gwireddu eu breuddwydion, boed hynny’n symud ymlaen i addysg uwch, rhaglen brentisiaeth neu waith.”

Bydd y campws modern, a godir gan y contractwyr adeiladu arbenigol Keir, yn cymryd lle campws presennol Coleg y Cymoedd ar Heol Cwmdâr, gyda chyfleusterau modern a gynlluniwyd i ddiwallu anghenion pobl ifanc mewn addysg heddiw.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd, wrth siarad yn y seremoni gosod carreg gopa: “Dyma brosiect ofnadwy o gyffrous i’r coleg sydd wir yn dechrau ymffurfio erbyn hyn. Diolch i waith caled Kier, os byddwn yn parhau i ddilyn yr amserlen bydd y campws yn barod ym mis Medi, a bydd yn adfywio addysg ôl-16 yn Aberdâr yn gyfan gwbl ar gyfer cannoedd o ddysgwyr. 

 

“Hefyd, rydym yn credu y bydd y campws yn ganolbwynt i’r gymuned wrth iddynt ddefnyddio’r salon a’r tŷ bwyta newydd a fydd yn cael eu rhedeg gan ein dysgwyr ond a fydd yn agored i’r cyhoedd. Fel erioed, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r safonau addysg gorau i ddysgwr ledled De Cymru, sef yr hyn y maent yn ei haeddu er mwyn dilyn yr yrfa o’u dewis.”

Bydd lleoliad y safle ger gorsaf drenau Aberdâr, Ysgol Gymunedol Aberdâr a chanol y dref yn rhoi mynediad llawer gwell i ddysgwyr at drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau cymudwyr o ardaloedd pellennig. Mae Coleg y Cymoedd wedi addo gweithio’n agos gydag ysgolion cyfagos i greu cwricwlwm sy’n ategu ac yn gwella’r hyn a gynigir i ddysgwyr yn y rhanbarth. 

 

Mae’r contractwyr Kier wedi defnyddio’r deunyddiau adeiladu cynaliadwy diweddaraf ar y safle drwy gydol yr adeiladu gan ddilyn ymrwymiad Coleg y Cymoedd i’r agenda gwyrdd. Wrth siarad am y broses adeiladu dywedodd, David Wainright, Cyfarwyddwr Masnachol Kier Construction Western and Wales:  “Mae campws newydd Aberdâr Coleg y Cymoedd ar y trywydd cywir i enilll BREEAM Excellence, gwobr sy’n arddangos cyd-ymrwymiad y tîm tuag at gynaladwyedd. Mae dysgwyr o gampysau eraill y coleg wedi gallu ymweld â’r safle yn ystod y broses adeiladu, ac ehangu eu gwybodaeth drwy weld sut y mae theorïau’r dosbarth yn cael eu defnyddio yn ymarferol ar safle adeiladu. Hefyd, mae myfyrwyr wedi cael gweld yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y maes adeiladu.

“Croesawyd yr ymweliadau, yn enwedig y rheiny gan fyfyrwyr â diddordeb mewn tirfesur meintiau, rheoli safle a pheirianneg. Mae Kier Construction hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol, gyda 75% o’r gweithle yn byw yn yr ardal leol. Mae’r holl gynllun wir yn dangos y cyfleoedd posibl ar gyfer pobl ifanc Aberdâr. Bydd y campws newydd yn fan cychwyn ar gyfer eu dyfodol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau