Cysgu Allan dros y digartref

Ymunodd dysgwyr o Goleg y Cymoedd â phobl ifanc o ysgolion a cholegau ar hyd a lled Cymru yn adeilad Tŷ Hywel, ym mae Caerdydd i gymryd rhan yn Ffug Gyngor yr Undeb Ewropeaidd. Cymerwyd rhan hefyd gan grŵp o fyfyrwyr o Fflandrys oedd ar ymweliad â nhw oedd yn cynrychioli’r DU.

Croesawyd yr ymwelwyr gan Mick Antoniw, Aelod y Cynulliad dros Bontypridd i’r siambr ac yna fe gyflwynodd Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Mae’r digwyddiad blynyddol erbyn hyn yn ei 7fed blwyddyn a Llywodraeth Cymru sy’n ei gynnal fel rhan o’i rhaglen i godi ymwybyddiaeth o faterion yr EU a’r manteision o fod yn aelod o’r UE.

Cynrychiolwyr Rwmania oedd Kimberley Corderoy a Dafydd Williams sy’n astudio ar y rhaglen A2 yng Ngholeg y Cymoedd; roedd rhaid iddyn nhw wneud ymchwil i’r dadleuon dros y cynigion a dadlau eu hachos. Fe wnaeth y ddau fwynhau’r profiad ac roedden nhw’n llysgenhadon gwych dros y coleg.

Ymhlith y cynigion roedd ‘A ddylai’r UE osod targed ar gyfer pob Aelod Wladwraeth i gynhyrchu 40% o’u trydan o ffynonellau adnewyddadwy ar gyfer 2014’ ac efallai’n fwy pynciol, ‘a ddylid caniatáu i ranbarthau sy’n dod yn Aelod-Wladwriaethau gael eu derbyn i’r UE yn syth’; pleidleisiodd y Ffug Gyngor yn gadarn erbyn y cynnig hwn.

Roedd Morgan Williams a James Date, y ddau’n astudio cwrs Lefel 3 CACHE, yn cynrychioli Ynys Melita (Malta); roedden nhw’n dîm ardderchog ac ar y diwedd daeth Morgan i’r podiwm i drafod mater roedd wedi’i godi gyda chynrychiolydd Comisiwn yr UE.

Dywedodd Morgan “Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r profiad, ron i’n eitha nerfus ar y cychwyn ond wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, cododd fy hyder ddigon i drafod y materion a synnu fy hunan mod i wedi codi i fynda ar y podiwm i wneud fy mhwynt. Mae’r digwyddiad wedi rhoi gwell dealltwriaeth i mi o sut mae’r UE yn gweithio.”

Yn dilyn trafodaeth fywiog dywedodd Mr. Antoniw: “Mae Ffug Gyngor yr UE yn achlysur unigryw sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ar hyd a lled Cymru i ddangos eu sgiliau dadlau a’u Gwybodaeth o sut mae’r UE yn gweithio, yn adeilad hynod y Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd yr achlysur yn llwyddiant mawr a’r holl ddysgwyr yn codi i’r sialens ac ymglymu i gynnal dwy ddadl uchel eu hansawdd. Chwalodd y digwyddiad y myth nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth – o gofio am rai o’r cyfraniadau gwych a gafwyd.

I orffen rhaglen y diwrnod, cafodd y grŵp o bobl ifanc daith o gwmpas y Senedd a chyfle i gael tynnu eu llun gyda’r Aelod o’r Cynulliad.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau