Mae Miroslaw Kowalczuk, sy’n 44 oed, ac yn dod o Wlad Pwyl, wedi cael cyfleoedd newydd ac yn gwella ei sefyllfa ariannol ers gwneud cais am brentisiaeth Pullman Rail yng Ngholeg y Cymoedd.
Gan ei bod yn hanu o bentref bychan wrth ymyl y ffin rhwng Gwlad Pwyl ac Wcrain, ni chafodd Miroslaw addysg draddodiadol, ac roedd sicrhau swydd â chyflog da yn ymddangos yn amhosibl iddo.
Wedi symud i Brydain i chwilio am amgylchiadau gwell, teimlai fod cwrs ei fywyd yn newid pan glywodd am Raglen Dysgu ac Uwchsgilio Oedolion Pullman Rail.
Roedd Miroslaw am ddatblygu ei sgiliau, ond roedd ganddo bryderon am ei sgiliau Saesneg, felly manteisiodd ar gyfle a gwneud cais am y brentisiaeth. Llwyddodd yn yr arholiad mynediad a sicrhaodd le ar y Diploma NVQ Lefel 3 mewn Tyniant a Rholstoc.
Fel partner cyflenwi Pullman Rail am naw mlynedd, dechreuodd Miroslaw ei astudiaethau yng Ngholeg y Cymoedd. Roedd ei brofiad yn hynod gadarnhaol, gyda’r coleg yn darparu amgylchedd gwych gyda gweithdai a labordai modern, yn ogystal ag asesydd NVQ hawdd mynd ato, Stephen Manning.
“Roeddwn yn bryderus am fy sgiliau Saesneg, ond tawelodd Stephen fy meddwl ac esbonio popeth. Fe wnaeth fy ysgogi i weithio’n galed a rhoddodd hyder i mi ynof fy hun a’m gallu”, meddai Miroslaw.
Gan argymell y cwrs i bobl eraill sydd â nodau personol neu yrfaol, parhaodd: “Mae’r cwrs wedi agor posibiliadau newydd i mi o ran hunanddatblygiad ac addysg bellach. Hefyd, mae’r cwrs wedi bod yn gymorth ariannol mawr oherwydd mae fy nghymhwyster yn golygu fy mod bellach yn ennill rhagor o arian, sy’n gymhelliant mawr.”
“Rwy’n gwybod yn awr ei bod yn bosibl goresgyn pob adfyd. Mae fy amser yng Ngholeg y Cymoedd wedi dysgu i mi y dylech chi bob amser gredu ynoch chi’ch hun.”
Mae’r asesydd NVQ, Stephen Manning, yn falch o bopeth y mae Miroslaw wedi’i oresgyn: “Mae Miroslaw wedi dangos y fath benderfyniad ac wedi cwblhau’r cymhwyster i safon uchel iawn. Mae ei ymrwymiad a’i barodrwydd i ddysgu sgiliau newydd yn dyst i foeseg waith ragorol ac agwedd gadarnhaol.”
“Prentisiaethau yw’r dull recriwtio a ffefrir yn yr economi heddiw, gan ei fod yn galluogi cwmnïau i fynd i’r afael â bylchau sgiliau yn eu sefydliad ac i lunio eu gweithlu yn y dyfodol â moeseg ac egwyddorion eu cwmni.”
Ym mhartneriaeth y coleg â Pullman Rail, caiff dysgwyr sy’n oedolion gymorth 24/7 gan eu Haseswr NVQ drwy gydol y rhaglen dwy flynedd.
Mae Pullman Rail yn un o 1,200 o gyflogwyr i weithio mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd. Gyda dros 27 o lwybrau pwnc ar gael, mae’r coleg un o’r darparwyr prentisiaethau mwyaf amrywiol yn y DU. Mae Coleg y Cymoedd ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau ar gyfer Medi 2023, yma: https://www.cymoedd.ac.uk/prentisiaethau/?lang=cy