Cafodd Y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, weld a’i lygaid ei hunan fel y mae addysg bellach yn Y Cymoedd yn cofleidio’r heriau osodwyd arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru.
Bu ymweliad â Champws £40 miliwn Nantgarw Coleg y Cymoedd a’r adran beirianneg yn gyfle i Mr Skates weld y campws gwych a’i adnoddau.
Yng nghwmni’r Pennaeth, Judith Evans, a’r Dirprwy, Karen Phillips, bu’r Dirprwy Weinidog yn ymweld â’r labordai gwyddoniaeth eithriadol o fodern ac â’r Ganolfan Lefel A, sy’n darparu dewis o 28 pwnc i dros 500 o fyfyrwyr bob blwyddyn. Bu hefyd yn cyfarfod â phrentisiaid British Airways sy’n astudio ochr yn ochr â phrentisiaid o amrediad o fusnesau peirianyddol amlwg.
Bu hefyd ar ymweliad â salon trin gwallt a harddwch Campws Nantgarw ac â’r adnoddau coginio syfrdanol i faes lletygarwch, sy’n darparu cyfle i ddysgwyr galwedigaethol gael hyfforddiant mewn amgylchedd o safon gwaith eu proffesiwn.
Eglurwyd hefyd i Mr Skates y gwaith sy’n mynd rhagddo i adfywio addysg bellach yn Y Cymoedd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer campws newydd gwerth £20 miliwn yn Aberdâr a gwelliannau gwerth £4 miliwn ar gampws Ystrad Mynach.
Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Roedden ni’n ddiolchgar i’r Gweinidog am roi o’i amser i ymweld â ni a chanfod yn bersonol y cyfleoedd rydyn ni’n ei darparu ar gyfer dysgwyr yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Roedd ein dysgwyr hefyd yn mwynhau’r cyfle i rannu eu profiadau â Mr Skates.
“Gobeithio i’r ymweliad roi gwir fewnwelediad iddo i’n cenhadaeth yng Nghymoedd De Cymru drwy’r ddarpariaeth addysgol ardderchog ac iddo gael dealltwriaeth am ein dyhead i ddarparu ar gyfer ein holl gymunedau gyda’r calibr o adnoddau y mae’r dysgwyr yn eu mwynhau ar gampws Nantgarw.
“