Cafodd dysgwyr busnes o Goleg y Cymoedd y cyfle i gael cipolwg ar fyd arian, gwarantau a buddsoddiadau ar daith unigryw i’r Sefydliad Siartredig.
Estynnwyd gwahoddiad i bump o ddysgwyr ar Lefel 3 BTEC Busnes ar gampws Nantgarw i ddiwrnod agored Gwasanaethau Ariannol ym mhencadlys y Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddiadau (CISI) yn Llundain.
Mae’r bobl fusnes eiddgar hyn wedi dewis astudio am gymhwyster ychwanegol ‘Cyflwyniad i Warantau a Buddsoddiadau’ ochr yn ochr a’u hastudiaethau llawn amser.
Roedd y diwrnod agored yn cynnwys Rhwydweithio Cyflym a Chinio Rhwydweithio gydag ymarferwyr pwysig o fyd ariannol a thaith gynhwysfawr o Winterflood Securities a phencadlys CISI.
Cafodd y dysgwyr hefyd weld proffil o ddiwrnod ym mywyd rhywun proffesiynol lefel uchel mewn cwmni corfforaethol mawr a chwmnïau gwasanaethau ariannol arbenigol. Dangoswyd enghreifftiau o rôl fel Brocer Corfforaethol, Rheolwr Risg a Rheolaeth Gweithredol, Cyfarwyddwr Cleient, Rheolwr Cynnyrch a Rheolwr Buddsoddiadau i’r dysgwyr.
Dywedodd y tiwtor Busnes Kim Purnell “Roedd yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gwrdd ag ymarferwyr yn y sector ariannol ac fe gaethon nhw ymweld â llawr masnachu un o’r sefydliadau ariannol.â€
“Dangosodd y dysgwyr ymroddiad i’r daith, gan hyd yn oed gwrdd am 5 y bore ar ddiwrnod cyntaf eu gwyliau Hanner Tymor i deithio i Lundain ar gyfer y gweithgareddau.â€
Mae Nicola Rodgers, sy’n 20 oed o Bontypridd, yn astudio Lefel 3 Cyflwyniad i Warantau a Buddsoddiadau ochr yn ochr â chwrs Lefel 3 Busnes. Wrth edrych yn ôl ar yr ymweliad dywedodd: Roedd ymweld â CISI yn gyfle penigamp i gael gwell dealltwriaeth o’r swyddi gwahanol o fewn y sector ariannol a chwrdd â phobl ar hyd a lled y wlad sydd hefyd yn astudio’r un cymwysterau.â€
Roedd Sam Braithwaite, 18, o Gaerffili, yn gweld budd o’r daith: “Roedd y diwrnod yn ddiddorol yn enwedig ymweld â’r llawr masnachu. Fe dderbynion ni gyngor gwerthfawr gan y bobl fusnes ar y diwrnod. Roedd yn ymweliad gwerth chweil.”
Ychwanegodd Ellis Smith, sy’n 18 oed o Gaerffili, sydd hefyd yn astudio modiwlau Busnes a CISI yn y coleg: “Roedd yn gipolwg arbennig i’r byd ariannol. Fe fydden ni’n ei argymell i unrhyw un.”
Tanlinellodd Stephen O’Shea, 21 oed o Maerdy, yr elfennau penodol yr oedd wedi cael budd ohonyn nhw: “Roedd yn dda cael siawns i siarad gyda gweithwyr go iawn yn y diwydiant arian drwy’r gweithgaredd rhwydweithio cyflym. Ond yn sicr fy hoff ran o’r dydd oedd y cyfle i ymweld â llawr masnachu Winterflood.”
“