Datganiad Mae Bywydau Du o Bwys

Mae llofruddiaeth drasig George Floyd wedi rhoi ysgytwad inni ac wedi ein tristáu. Yngyd â hynny, mae’r digwyddiad wedi tynnu sylw at broblem systemig cam-drin a gwahaniaethu yn erbyn cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled y byd.

Fel coleg o ddiwylliant amrywiol, rydym yn casáu hiliaeth neu wahaniaethu o unrhyw fath ac rydym wedi ymrwymo i ymladd rhagfarn a hyrwyddo cydraddoldeb. Credwn y dylai fod gan bawb yr hawl i gyfle cyfartal, ac na ddylai hil, rhyw, oedran, rhywioldeb, ffydd nac anabledd gael unrhyw effaith ar yr heriau sy’n eu hwynebu na’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Mae’r coleg yn sefyll mewn undod â’r gymuned Ddu ac rydym yn cefnogi mudiadau fel Mae Bywydau Du o Bwys, sy’n gweithio’n galed i dynnu sylw at y gwahaniaethu y mae cymunedau BAME yn ei wynebu, ac ymladd dros newid.

Rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan a chydweithio i gyflawni’r nod hwn. Mae gan addysg y pŵer i sicrhau gwir newid – i greu cynwysoldeb a chydraddoldeb – ac fel man dysgu, mae gennym gyfrifoldeb i addysgu a chefnogi ein dysgwyr, staff, rhanddeiliaid a chymunedau i ymladd yn erbyn anghyfiawnder.

Nid yw’n ddigon condemnio hiliaeth yn dawel. Mae’n hanfodol ein bod yn codi llais yn erbyn rhagfarn a gwahaniaethu er mwyn parhau â’r momentwm hwn am newid a grëwyd gan brotestiadau diweddar.

Mae’r coleg yn gweithio’n galed i hyrwyddo cyfle cyfartal ac i addysgu dysgwyr ar y materion hyn ond rydym yn gwybod bod angen gwneud llawer mwy i chwalu’r rhwystrau y mae cymunedau Du yn parhau i’w hwynebu yn y DU, ac rydym wedi ymrwymo i wneud mwy.

Gall unrhyw ddysgwyr neu staff sydd angen rhagor o wybodaeth a chyngor, neu a hoffai ddysgu mwy am yr hyn y gallant ei wneud i helpu, gyrchu’r adnoddau canlynol:

Gall unrhyw ddysgwyr sydd ag unrhyw bryderon neu a hoffai siarad â rhywun am y materion hyn gysylltu â’n tîm lles. Gall staff sy’n cael eu heffeithio hefyd siarad â’n tîm AD.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau