Datgelu buddsoddiadau addysg gwerth miliynau o bunnoedd ar Gampws Coleg y Cymoedd Rhondda

Mae un o golegau addysg bellach mwyaf De Cymru, Coleg y Cymoedd, wedi datgelu cyfres o ddatblygiadau newydd yn sgil buddsoddi dros £4 miliwn ar ei gampws yn y Rhondda.

Dychwelodd y dysgwyr i’r campws ar ôl misoedd o ddysgu o bell i ddarganfod adain gyfan newydd sy’n cynnwys gweithdy ac ystafell grefftau newydd; offer a chyfleuster hyfforddi coginio; cawod a chyfleusterau newid modern ar gyfer ei gae chwaraeon; yn ogystal ag ystafell bwrpasol i helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol. Hefyd, adeiladwyd neuadd amlbwrpas fodern ar gyfer ‘profiad y dysgwyr’, a fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau ac ar gael i’w llogi’n breifat unwaith y bydd y cyfyngiadau’n caniatáu.

Mae’r buddsoddiadau, a ariennir yn rhannol gan Raglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn rhan o gynlluniau’r coleg i fuddsoddi’n barhaus mewn cyfleusterau ac offer newydd a fydd yn caniatáu i ddysgwyr ar draws ei ddalgylch gael mynediad at y cyfleoedd hyfforddiant a’r llwybrau gyrfa diweddaraf.

Dywedodd Carolyn Donegan, Cyfarwyddwr Campws y Rhondda Coleg y Cymoedd: “Mae’n gyfnod cyffrous yn y coleg wrth inni ddadorchuddio’r cyfleusterau newydd i’n staff, ein dysgwyr a chymuned ehangach Cwm Rhondda.

“Mae’r hyn a ddechreuodd fel adnewyddu’r campws wedi tyfu’n brosiect ar raddfa fawr i wella darpariaethau addysgu ymhellach; cyfoethogi’r cwricwlwm a moderneiddio cyfleusterau’r coleg. Y nod yw parhau i ddarparu addysg a hyfforddiant o safon uchel am nifer o flynyddoedd i ddod, ac wrth wneud hynny, sicrhau bod dysgwyr, heddiw ac yn y dyfodol, yn rhagori yn eu hastudiaethau a’u hyfforddiant.”

Bellach mae gan ddysgwyr Mynediad Galwedigaethol sy’n astudio Gosodiadau Trydan, Gwaith Saer a Phlymio fynediad at eu gweithdy pwrpasol eu hunain, sy’n rhoi’r lle, yr offer a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gael hyfforddiant o safon diwydiant a fydd yn eu helpu i ragori yn eu crefft.

Ar gyfer dysgwyr celf a chrefft, agorwyd ystafell bwrpasol ar gyfer addysgu personol ac i’w galluogi i gyflawni eu prosiectau crefft eu hunain, o greu basgedi i waith coed.

Er mwyn sicrhau bod darpariaethau Coleg y Cymoedd ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cwrdd â’r safonau a nodwyd gan Fil ADY Llywodraeth Cymru, mae’r coleg wedi creu ystafell bwrpasol newydd ar gyfer Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS). Bydd yr ystafell yn cynnwys fflat breswyl ffug gyda chegin ac offer cartref sy’n gweithredu’n llawn fel y gallant fagu hyder o ran byw’n annibynnol drwy weithgareddau ymarferol.

Hefyd, mae’r coleg wedi datgelu cyfleuster hyfforddi coginio a chegin a bwyty o safon fasnachol. Er mwyn cydnabod hanes pyllau glo’r rhanbarth a’r flwyddyn y cychwynnodd y gwaith ar y prosiect, enw’r bwyty yw ‘Colliery 19’ a bydd yn cynnwys addurniadau’n ymwneud â’r diwydiant glo ag elfen fodern. Bydd yr holl fwyd yn cael ei baratoi a’i weini gan ddysgwyr sy’n astudio pob lefel o gyrsiau arlwyo, o’r cyrsiau rhagarweiniol i gymwysterau uwch, o dan arweiniad cogyddion a staff blaen tŷ proffesiynol. Wrth i gyfyngiadau symud lacio ac yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, bydd Colliery-19 yn agor ei ddrysau i’r cyhoedd yn y dyfodol agos.

Wrth edrych ymlaen, mae gan Goleg y Cymoedd gynlluniau pellach i wella cyfleoedd hyfforddi a dysgu i ddysgwyr ar gampws y Rhondda drwy droi’r gofod manwerthu cyfredol ar y safle yn fenter a gynhelir gan fyfyrwyr a fydd yn rhoi’r cyfle iddynt ennill profiad gwaith a rhoi hwb i’w sgiliau menter. Bydd y gofod amlbwrpas yn cynnig amrywiaeth o opsiynau gan gynnwys ardal arlwyo i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ac ennill profiad manwerthu, ardal i ddysgwyr werthu eu creadigaethau o patisserie i waith coed, yn ogystal â lleoliad i werthu lluniaeth yn ystod digwyddiadau yn theatr y coleg.

Bydd y gofod hefyd yn gweithredu fel estyniad o ddarpariaethau cyfleusterau’r coleg ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac i’r rheini sydd am ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol, gan gynnig y cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau ac ymarfer yr hyn y maent wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn amgylchedd gwaith go iawn.

Mewn ymgais i ddarparu rhagor o fuddion i gymuned ehangach y Rhondda, yn ogystal â dysgwyr a staff, mae gan y campws neuadd amlbwrpas newydd ar gyfer ‘profiad y dysgwyr’ a fydd, unwaith y bydd yn gwbl weithredol ac wrth i’r cyfyngiadau lacio, ar gael i’r gymuned leol ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus. Mae cyfleusterau cawod a blociau newid newydd hefyd wedi’u creu ar gae chwaraeon y campws, a fydd ar agor i aelodau’r cyhoedd sydd am ddefnyddio’r gofod ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau chwaraeon. Mae timau lleol fel y tîm rygbi i ferched ‘Rhondda Miners’ eisoes wedi manteisio ar y cyfleusterau newydd a byddant yn defnyddio’r cae fel maes hyfforddi ar gyfer eu chwaraewyr.

Dywedodd Jonathan Morgan, Is-Bennaeth Coleg y Cymoedd: ““Mae’r coleg yn ymroddedig i ddatblygu ei gyfleusterau a’i ddarpariaethau addysgu. Mae’r buddsoddiadau ar gampws y Rhondda yn tynnu sylw at ein gwaith parhaus i sicrhau ein bod yn darparu profiad dysgu o ansawdd uchel i bobl ifanc y rhanbarth.

“Maent yn rhan allweddol o’n hymrwymiad i gynyddu darpariaethau ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, uwchlaw a thu hwnt i ofynion, a byddant hefyd yn ein galluogi i ehangu’r cwricwlwm i gynnig cymwysterau lefel uwch mewn amrywiol ddisgyblaethau. Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen â’u dewis lwybr addysg ar un campws, rhywbeth nad oeddem yn gallu ei gynnig o’r blaen”.

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau