Dathliadau rhithiol yn nodi llwyddiannau Coleg y Cymoedd

Mae myfyrwyr cymoedd y de yn dathlu eu llwyddiannau galwedigaethol a Safon Uwch o’u cartrefi eleni, wrth i Goleg y Cymoedd gyhoeddi canlyniadau rhagorol ar gyfer 2020.

Mae Canolfan Safon Uwch y coleg yn Nantgarw, a newidiodd i ddysgu o bell ym mis Mawrth oherwydd Covid-19, wedi llwyddo i gyflawni cyfradd pasio gyffredinol o 99.7 y cant, wrth i nifer y myfyrwyr a enillodd raddau A*-C godi i 80.9 y cant ar gyfer pynciau A2. Llwyddwyd hefyd i sicrhau cyfradd pasio o 100 y cant ar gyfer y rhan fwyaf o’r pynciau A2, yn cynnwys y gwyddorau, y dyniaethau, mathemateg pellach a Saesneg.  

Mae canlyniadau A2 Coleg y Cymoedd yn parhau i ragori wrth i’r canlyniadau yn 2020 dorri record y coleg am y trydydd blwyddyn o’r bron. Eleni, bu’n rhaid i’r coleg addasu ei arferion addysgu a gofal bugeiliol i gefnogi myfyrwyr wrth iddyn nhw weithio o gartref drwy ddarlithoedd ar-lein a chyfarfodydd rhithiol a sgyrsiau ailgydio.

Fel arfer ar Ddiwrnod Canlyniadau, byddai cannoedd o fyfyrwyr ar y campws i ddathlu’u llwyddiannau gyda’u tiwtoriaid a’u cyd-fyfyrwyr. Wrth gofleidio’r drefn newydd, mae Coleg y Cymoedd yn annog myfyrwyr a’u teuluoedd i ymuno ar y cyfryngau cymdeithasol i ddathlu’r canlyniadau a gafon nhw’n electronig. 

Meddai Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: Mae eleni wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i’n myfyrwyr wrth iddyn nhw barhau i astudio yn ystod pandemig byd-eang a chyfnod y cyfyngiadau symud. Rydyn ni wedi’n syfrdanu gan y gwaith caled, yr ymroddiad a’r gwydnwch maen nhw wedi’i ddangos wrth i bawb addasu i weithio o gartref.

“Er nad ydyn ni’n gallu dathlu gyda’n myfyrwyr wyneb yn wyneb eleni ac yn colli allan ar y miri ar y campws, ar ran y coleg, hoffwn longyfarch pawb sy’n cael eu canlyniadau heddiw. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer y dyfodol, p’un a ydyn nhw’n bwriadu mynd ymlaen i’r brifysgol, i wneud prentisiaeth, astudio addysg bellach, hyfforddi, neu gyflogaeth – byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â phob un ohonyn nhw ac yn cadw llygad fanwl ar eu cynnydd gwych.”

Er bod yn rhaid i fyfyrwyr Coleg y Cymoedd ddathlu o’u cartrefi eleni, mae’r coleg wedi gosod y carped coch allan ar gyfer y timau o staff sydd ar y campws i gynnig cymorth o bell i’r myfyrwyr, i ateb galwadau ffôn ac ymateb i ymholiadau drwy wasanaeth sgwrsio byw y wefan. 

Ychwanegodd Pennaeth y coleg: “Mae’r canlyniadau gwych heddiw yn dyst i ddycnwch ac ymrwymiad ein myfyrwyr yn ogystal ag ymroddiad ein tiwtoriaid a’n timau cymorth sydd wedi bod yn darparu gofal bugeiliol heb ei ail i’n myfyrwyr. Hoffwn hefyd ddiolch am waith ymroddgar ein tiwtoriaid am ddadansoddi’r holl dystiolaeth o arholiadau, aseiniadau a phrofion ymarferol blaenorol er mwyn cyfrifo’r canlyniadau eleni. Mae eu hymdrechion nhw wedi sicrhau bod myfyrwyr yn ennill graddau sy’n adlewyrchu eu galluoedd yn deg a’r canlyniadau go iawn roedden nhw wedi’u sicrhau cyn mis Ebrill eleni.

“Yn ystod y cyfnod eithriadol yma, rydyn ni wedi gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at yr holl gymorth a chyngor arferol. Ar wahân i’r darlithoedd ar-lein, mae staff wedi bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw, ac mae ein tiwtoriaid a’n tîm lles ar gael drwy gydol y Diwrnod Canlyniadau, boed hynny drwy’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein neu dros y ffôn.”

Mae’r canlyniadau eleni wedi golygu bod myfyrwyr wedi sicrhau lle yn rhai o brifysgolion gorau Prydain.

Un o’r myfyrwyr sy’n dathlu heddiw yw Jodie Neville, sy’n 18 oed ac o Dreharris, a fydd yn mynd i Brifysgol Rhydychen ar ôl ennill graddau rhagorol (A*, A*, A, A) yn y Gyfraith, Cymdeithaseg, Mathemateg a Hanes. Disgynnodd y fyfyrwraig dalentog, sy’n gobeithio astudio i fod yn fargyfreithiwr troseddol, mewn cariad â’r brifysgol ar ôl cymryd rhan yn yr ysgol haf breswyl llynedd.

Jodie Neville, 2 A*’s and 2 A’s

Meddai Jodie: “Dw i mor hapus fy mod i wedi cael y canlyniadau angenrheidiol i fynd i’r brifysgol. Dw i wastad wedi bod eisiau mynd i Rydychen, ac mae gwybod fy mod i wedi cael y graddau yn rhyddhad mawr! Mae’n un o’r prifysgolion gorau yn y byd a dw i’n edrych ymlaen i ddechrau fy nghwrs ym mis Hydref.”

Myfyrwraig arall sy’n chwifio baner Coleg y Cymoedd yw Tazkia Choudhury, sy’n 20 oed o Bontypridd, sy’n bwriadu astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Sheffield ar ôl dod yn ôl i’r coleg i roi cynnig arall ar astudio Safon Uwch a sicrhau graddau clodwiw o A* A ac A mewn Bioleg, Cemeg a Hanes.

Tazkia Choudhury, A*,A,A

Ar ôl astudio’r pynciau’n wreiddiol yn y chweched dosbarth, lle cafodd raddau D, gadawodd Tazkia yr ysgol ar ôl ei blwyddyn gyntaf i ofalu am ei mam-gu oedd â salwch angheuol. Roedd hi’n benderfynol o wella’i graddau, felly penderfynodd fynd yn ôl i’r coleg i ail-sefyll ei phynciau Uwch Gyfrannol, ac er ei bod hi’n cydbwyso gofalu am ei mam-gu ac astudio ar y pryd, llwyddodd i gael graddau A i gyd, a chael sgôr o 100% yn un o’i harholiadau. Cafodd Tazkia ei hysbrydoli gan y canlyniadau yma i newid y llwybr gyrfa roedd hi am ei ddilyn a gwnaeth gais i astudio meddygaeth.

Ar ôl cael ei hysgogi gan ei diweddar mam-gu, mae Tazkia bellach yn gobeithio mynd i weithio ym maes oncoleg er mwyn helpu cleifion canser eraill. Meddai: “Pan ro’n i’n astudio fy mhynciau Uwch Gyfrannol am y tro cyntaf, wnes i ddim gwneud cystal ag ro’n i’n gobeithio, ac er mai meddyg ro’n i am fod ers pan o’n i’n ddeg oed, ro’n i’n meddwl bod astudio meddygaeth yn y brifysgol yn bell allan o fy nghyrraedd.

“Ro’n i’n benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyfleoedd oedd ar gael i fi, felly fe wnes i benderfynu mynd yn ôl i’r coleg. Ro’n i’n nerfus am astudio’r un pynciau eto, ond fe wnaeth fy nhiwtoriaid fy annog i a fy sicrhau y byddai cymorth ar gael drwy gydol fy astudiaethau. Ro’n i’n anelu at gael graddau C, felly do’n i methu credu’r peth pan ges i raddau A. Fe wnaeth hynny roi’r hyder i fi feddwl, ‘ti’n gwybod beth? Ti’n ddigon da i astudio meddygaeth’.”

Yn y cyfamser, mae’r fyfyrwraig gwyddoniaeth, Josie Wood, sy’n 18 oed ac yn dod o’r Coed-duon, hefyd wedi sicrhau graddau ardderchog, sef A* A A A mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Ffrangeg, gan sicrhau ei lle ym Mhrifysgol Caerfaddon i astudio Gwyddorau Naturiol. Mae Josie, sydd wedi bod â diddordeb yn y gwyddorau ers amser maith, wedi cael ei hysbrydoli gan y frwydr yn erbyn y Coronafeirws i ddilyn gyrfa ym maes ymchwil feddygol.

Josie Wood, A*,A,A

 

Scott Harris A*, A, A

Ers ei sefydlu yn 2013, mae Canolfan Safon Uwch Coleg y Cymoedd yn cynnig dewis o dros 20 o bynciau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol i fyfyrwyr. Coleg y Cymoedd yw’r darparwr addysg mwyaf yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau