Dathlu buddsoddiadau newydd mewn dysgu cymunedol ar gampws y Rhondda

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu’r coleg wrthi’n ddyfal ar gampws y Rhondda yn datblygu amrywiaeth o adnoddau a darpariaethau newydd ar gyfer cyfoethogi profiadau dysgu’r myfyrwyr.

Mae dros £4m o fuddsoddiadau mewn dysgu cymunedol a ariennir yn rhannol gan Raglen Colegau ac Ysgolion yr 21 ganrif Llywodraeth Cymru yn rhan o gynlluniau’r coleg i fuddsoddi’n barhaus mewn cyfleusterau a chyfarpar newydd a fydd yn galluogi dysgwyr ar draws y dalgylch i gyrchu’r cyfleoedd hyfforddi a’r llwybrau gyrfaol diweddaraf. 

Ddydd Mercher, Tachwedd 17, dathlwyd bod ein cyfleusterau newydd wedi’u cwblhau a dathlu’r cyfleoedd a grëwyd ar gyfer cymuned y coleg.

Gwahoddwyd dysgwyr, staff a gwesteion o gymuned ehangach y Rhondda i’r digwyddiad i weld drostyn nhw eu hunain sut mae’r buddsoddiadau newydd yn cefnogi ymrwymiad Coleg y Cymoedd i greu ‘coleg gwirioneddol gymunedol’ sy’n cynnwys creu partneriaethau newydd a luniwyd gyda grwpiau o’r gymuned leol.

Yn ogystal â chyflwyniadau gan ein Pennaeth, Karen Phillips, a’r Dirprwy Bennaeth, Jonathan Morgan, gwahoddwyd y gwesteion i fynd ar daith drwy’r campws ac yna i gael cinio a goginiwyd a’i weini gan fyfyrwyr arlwyo’r coleg ym mwyty ‘Colliery 19’.

Dywedodd Carolyn Donegan, Cyfarwyddwr Dysgu a Gwasanaethau Campws ar gampws y Rhondda, Coleg y Cymoedd: “Ni fu’r daith o’r cyfnod cynllunio i ddatblygu cyfleusterau newydd yn hawdd gyda llawer o feini tramgwydd ar y ffordd.

“Gyda’r prif gyfleusterau wedi’u cwblhau erbyn hyn, rydyn ni wrth ein bodd i weld pa mor bell rydyn ni wedi dod ers cyfnodau cynnar y prosiect. Roedd croesawu a dathlu buddsoddiadau newydd yn ystod y digwyddiad yn brofiad rhyfeddol ac rydyn ni’n gyffrous i weld y cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil hynny ar gyfer ein staff, ein dysgwyr ac ar gyfer y gymuned ehangach.”

Mae’r buddsoddiadau diweddaraf ar gampws y Rhondda yn cynnwys agor gweithdy newydd llawn cyfarpar ac ystafell grefft, bwyty pwrpasol ac uwch gyfleusterau hyfforddi coginio ac adnoddau cawod a newid at ddibenion maes chwarae’r coleg. Gyda’r dysgwyr a staff wedi dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb, bydd y mannau newydd yn cynnig y gofod, y cyfarpar a’r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i gyrchu hyfforddiant o safon y diwydiant  a fydd yn eu helpu i ragori yn eu dewis yrfa.

Datblygwyd ystafell bwrpasol a luniwyd i helpu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol er mwyn sicrhau bod darpariaeth Coleg y Cymoedd ar gyfer dysgwyr ADY yn cwrdd â’r safonau a nodwyd ym Mesur ADY Llywodraeth Cymru

Ynghyd â’r darpariaethau newydd sbon, mae’r coleg wedi sefydlu partneriaethau gyda grwpiau yn y gymuned leol megis timau merched Undeb Rygbi Cymru, Ysgol Hen Felin, Ymglymiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf a Ransack Dance, grŵp dawns a drama elusennol. Nod y partneriaethau hyn ydy atgyfnerthu perthynas y coleg â’r gymuned ehangach ac i gyfoethogi profiadau dysgu ymhellach ar draws y coleg drwy gyflwyno mentrau newydd a hwylusir gan y grwpiau a’u cynnal ar gampws Rhondda.

Ychwanegodd Carolyn: “Mae’r cyfleusterau newydd yn golygu y gallwn gynnal rhagor o ddigwyddiadau a mentrau yn uniongyrchol; ar y campws a fydd dysgwyr ac aelodau’r cyhoedd yn gallu elwa ohonyn nhw .

“Drwy bartneriaethau gyda Chymuned ehangach y Rhondda, gall dysgwyr a staff gyrchu rhwydwaith o grwpiau lleol a sefydliadau yn lleol a chyfoethogi eu profiadau dysgu a’u haddysgu ymhellach.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau